Sut y gallwn eich helpu
Rydym yn darparu cyngor am ystod gyfan o fudd-daliadau nawdd cymdeithasol gan gynnwys Taliad Annibyniaeth Bersonol (PIP). Lwfans Byw i'r Anabl ar gyfer Plant, Lwfans Gweini, Credyd Pensiwn, Credyd Cynhwysol yn ogystal â lwfansau eraill y gallech eu hawlio, megis prydau ysgol am ddim, grantiau gwisg ysgol, gostyngiad yn eich biliau dŵr a threth y cyngor.
Byddwn yn gwirio pa fudd-daliadau y gallech fod yn gymwys i’w derbyn a byddwn yn eich cynghori a'ch helpu â’r broses ymgeisio. Ambell waith gallwn eich helpu dros y ffôn, ac ar adegau eraill bydd angen i ni drefnu apwyntiad ar eich cyfer mewn lleoliad a gytunir, lle bydd aelod o’r tîm yn eich cefnogi trwy’r broses.
Ar hyn o bryd rydym yn darparu gwasanaeth i unrhyw un sy’n byw yn Sir Conwy.
Cysylltwch â ni
E-bost: welfare.rights@conwy.gov.uk
Rhif ffôn: 01492 576605 (Dydd Llun – Dydd Iau 9am tan 5pm a dydd Gwener 9am tan 4.45pm)
Mae cyngor gan Dîm Hawliau Lles Conwy yn gyfrinachol ac AM DDIM.
Cysylltwch â ni heddiw – peidiwch ag oedi cyn hawlio budd-daliadau y mae gennych hawl i’w derbyn.
Efallai y cewch wybodaeth gyffredinol am bobl a gwasanaethau ledled Cymru a allai’ch helpu â phethau sy’n bwysig i chi ar www.dewis.cymru