Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Budd-daliadau a Grantiau Hawliau Lles Allai'r Tîm Hawliau Lles eich helpu chi?

Allai'r Tîm Hawliau Lles eich helpu chi?


Summary (optional)
Gallwn helpu gyda chwestiynau a phroblemau ar ystod eang o faterion budd-dal lles.
start content

Mae Tîm Hawliau Lles Conwy yn darparu cymorth a chyngor cyfrinachol am ddim ynglŷn â phob math o fudd-daliadau lles. Mae rhai o’r meysydd lle gallwn ni roi cymorth i chi yn cynnwys:

  • Gwirio eich bod chi’n derbyn y swm cywir o arian.
  • Rhoi gwybodaeth am hawl i fudd-daliadau a’ch cynghori am sut i hawlio.
  • Gwirio os ydych yn gymwys ar gyfer unrhyw ostyngiadau eraill er enghraifft Gostyngiad yn Nhreth y Cyngor, neu brydau ysgol am ddim.
  • Rhoi cymorth os oes un o’ch ceisiadau am fudd-dal wedi ei wrthod, a’ch bod am apelio yn erbyn penderfyniad.
  • Eich cynghori os yw eich amgylchiadau wedi newid ac fod arnoch angen gwneud cais am fudd-daliadau.

A wyddoch chi?

Os oes gennych anabledd hir dymor mae’n bosib y gallwch hawlio:

  • Lwfans Gweini os ydych dros oedran pensiwn neu
  • Taliad Annibyniaeth Bersonol (PIP) os ydych rhwng 16 oed ac oedran pensiwn.


Nid yw’r budd-daliadau hyn yn effeithio unrhyw fudd-daliadau sy’n berthnasol i incwm y gallech fod yn eu derbyn eisoes.

Mae budd-daliadau neu ostyngiadau eraill y gallech fod yn gymwys i’w derbyn yn cynnwys:

Treth y Cyngor

Mae’n bosib eich bod yn gymwys i gael gostyngiad yn Nhreth y Cyngor os yw un o’r amgylchiadau canlynol yn berthnasol i chi:

  • Derbyn Credyd Gwarant Credyd Pensiwn
  • Prawf meddygol o fod ag Amhariad Gwybyddol Arwyddocaol e.e. clefyd Alzheimer, Dementia, clefyd Parkinson, anawsterau dysgu difrifol neu strôc, ond mae nifer o rai eraill yn gymwys, yn ogystal â derbyn budd-dal anabledd.
  • Rydych wedi dod a’ch gwely i lawr y grisiau oherwydd anabledd parhaol.
  • Rydych yn defnyddio ocsigen ychwanegol 24 awr y dydd.

Biliau Dŵr

Mae’n bosib y gallech fod yn gymwys am ostyngiad yn eich biliau dŵr os oes gennych:

  • Gyflwr meddygol sy’n golygu fod yn rhaid i chi ddefnyddio mwy o ddŵr nag arfer
  • 3 o blant o dan 19 oed

Yn ogystal, os ydych yn dioddef caledi ariannol, gallwch wneud cais i Gronfa Cymorth Cwsmeriaid Dŵr Cymru, sy’n gallu helpu i dalu ôl-ddyledion dŵr. Mae’n ofynnol fod gennych sgôr credyd isel ar gyfer y cynllun hwn.

Costau tanwydd

Os ydych yn derbyn Credyd Gwarant Credyd Pensiwn, mae gennych hawl i Ostyngiad Cartref Cynnes gan eich cyflenwr ynni i helpu talu cost eich bil tanwydd gaeaf.

Cymorth ychwanegol gyda chost cynydol olew gwresogi.

Yn dilyn cynnydd diweddar mewn prisiau olew, bydd taliadau olew oddi ar y grid yn cynyddu i £750, cyfanswm o 2 daliad mewn cyfnod treigl o 12 mis, gyda bwlch o 3 mis rhwng bob cais. Sylwer y dylai holl geisiadau oddi ar y grid gael eu cyflwyno gan Bartner Cymeradwy, ac ni ddylai’r ymgeisydd fod ag unrhyw gynilion.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi cysylltwch â:

Llinell Gyngor Budd-daliadau Hawliau Lles Conwy

Rhif ffôn: 01492 576605

Dydd Llun - Dydd Iau 9am – 5pm
Dydd Gwener 9am-4.45pm

E-bost: hawliau.lles@conwy.gov.uk

end content