Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Chwilio drwy Gofnodion Claddu ac Amlosgi


Summary (optional)
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn darparu chwiliadau achau o’n cofnodion am amlosgiadau a chladdedigaethau. Mae ein cofnodion yn dyddio’n ôl i 1957 ar gyfer amlosgiadau a 1879 ar gyfer claddedigaethau.
start content

Rydym ni’n darparu chwiliadau achau o’n cofnodion am amlosgiadau a chladdedigaethau.  Mae ein cofnodion yn dyddio’n ôl i 1957 ar gyfer amlosgiadau a 1879 ar gyfer claddedigaethau.

Os hoffech chi i ni wneud chwiliad, anfonwch e-bost atom ar GwasanaethauProfedigaeth@conwy.gov.uk neu ffonio 01492 577733.

Byddwn angen gwybod:

  • Enw’r ymadawedig
  • Dyddiad marw (yn fras)
  • Claddedigaeth neu amlosgiad
  • Os claddedigaeth – y  fynwent os ydych yn gwybod, enw unrhyw un arall sydd yn y bedd

Codir tâl am gynnal y chwiliadau hyn: £28 (yn cynnwys TAW)

Gallwch dalu dros y ffôn drwy ffonio 01492 577733 neu anfon siec yn daladwy i: ‘Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy’ i:

Swyddfa Mynwentydd ac Amlosgfa
Amlosgfa Bae Colwyn
Ffordd Glan y Wern
Mochdre
LL28 4YL
end content