Bydd yr Archwiliwr Meddygol yn cyflwyno Tystysgrif Feddygol o Achos Marw o Achos Marwolaeth (MCCD) i’r Cofrestrydd.
Mae’r Archwiliwr Meddygol yn craffu’n annibynnol ar holl farwolaethau na chânt eu hymchwilio gan y crwner. Bydd yr Archwilydd Meddygol yn sicrhau bod achos marwolaeth cywir yn cael ei gofnodi, yn nodi unrhyw bryderon o ran y farwolaeth ei hun a ellir yna ei ymchwilio ymhellach gan y darparwr gofal neu’r Crwner os oes angen, a chymryd safbwyntiau’r galarwyr i ystyriaeth. Bydd yr Archwilydd Meddygol yn cysylltu gyda’r perthynas agosaf cyn cyflwyno’r Dystysgrif Feddygol o Achos Marw o Achos Marwolaeth i’r Cofrestrydd.
Os fydd y farwolaeth wedi digwydd yn Sir Conwy a’r Archwilydd Meddygol wedi cyflwyno’r MCCD, bydd y Swyddfa Gofrestru yn cysylltu â chi i wneud apwyntiad i gofrestru’r farwolaeth.
Pwy all gofrestru marwolaeth
Gweler isod y rhestr o unigolion a all gofrestru marwolaeth:
- Perthynas neu bartner
- Rhywun a oedd yn bresennol yn ystod y farwolaeth
- Meddiannydd sefydliad cymunedol
- Yr unigolyn sy’n trefnu’r angladd os nad oes perthnasau ar gael
I baratoi ar gyfer yr apwyntiad cofrestru marwolaeth, sicrhewch eich bod yn gwybod y wybodaeth a restrir isod. Efallai y bydd yn ddefnyddiol ysgrifennu hyn i lawr ymlaen llaw, neu gael dogfennau megis pasbort, tystysgrif geni a thystysgrif priodi (os yw’n gymwys) wrth law.
Manylion yr ymadawedig:
- Dyddiad a lleoliad y farwolaeth
- Enw cyntaf, enwau canol ,chyfenw ac (os yw’n gymwys) enw morwynol
- Unrhyw enwau eraill yr oedd yr ymadawedig yn cael eu galw neu enwau blaenorol
- Enw cyn priodi (os yw’n gymwys)
- Dyddiad a lleoliad geni
- Swydd ac a oeddent wedi ymddeol
- Cyfeiriad
Ym mhle alla’ i gofrestru marwolaeth?
Rhaid i farwolaethau sy’n digwydd ym Mwrdeistref Sirol Conwy gael eu cofrestru yn Neuadd y Dref Llandudno drwy apwyntiad yn unig.
Cofrestru Marwolaeth drwy Ddatganiad:
Os nad ydych yn gallu dod i'r Swyddfa Gofrestru yn Llandudno, gallwch wneud apwyntiad i fynychu unrhyw Swyddfa Gofrestru yng Nghymru neu Loegr i gofrestru'r farwolaeth drwy ddatganiad.
Bydd y Cofrestrydd yn cofnodi'r manylion ac yn anfon eich datganiad wedi ei lofnodi i'r cofrestrydd yn yr ardal lle digwyddodd y farwolaeth.
Yn anffodus, gall cofrestru marwolaeth yn y ffordd hon achosi oedi i'r angladd, gan na fydd y dogfennau angenrheidiol yn cael eu rhoi i'r sawl sy'n mynychu'r swyddfa gofrestru. Mae'n syniad da trafod trefniadau gyda'r trefnydd angladdau a staff y swyddfa gofrestru er mwyn osgoi unrhyw oedi diangen.
Dywedwch Wrthym Unwaith
Pan rydych chi’n cofrestru marwolaeth yn un o’n Swyddfeydd Cofrestru gallwn ddarparu gwasanaeth o’r enw ‘dywedwch wrthym unwaith’ i roi gwybod i adrannau eraill y cyngor, yr Adran Gwaith a Phensiynau, Cyllid a Thollau EM a’r DVLA ynglŷn â’r farwolaeth ar eich rhan.
Bydd arnoch chi angen y dogfennau / yr wybodaeth ganlynol ynglŷn â’r ymadawedig:
- Eu rhif yswiriant gwladol a’u dyddiad geni
- Manylion unrhyw fudd-dal neu wasanaeth yr oedd yr ymadawedig yn ei dderbyn
- Tystysgrif marwolaeth
- Eu trwydded yrru neu rif eu trwydded yrru
- Eu pasport neu rif eu pasport a’u tref/gwlad enedigol
- Eu bathodyn parcio glas
- Eu pas bws
Efallai y bydd arnom ni hefyd angen y manylion canlynol:
- Manylion eu perthynas agosaf
- Manylion gŵr, gwraig neu bartner sifil
- Manylion y person sy’n delio gyda’u stad
Dywedwch Wrthyn Unwaith (Mwy o Wybodaeth)
Pa ddogfennau fydd y Cofrestrydd yn eu rhoi i mi?
- Copïau ardystiedig o'r Cofnod Marwolaeth (Tystysgrifau Marwolaeth) - mae yna ffi amy tystysgrifau hyn, ac yn daladwy dros y ffôn cyn eich apwyntiad.
- Gallwch hefyd gael rhagor o dystysgrifau o'r Swyddfa Gofrestru yn y dyfodol.
- Ffurflen werdd i'w roi i’r trefnydd angladdau
- Os ydych wedi defnyddio'r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith – cewch lythyr sy’n cadarnhau bod yr holl adrannau wedi cael eu hysbysu
Gwybodaeth Ychwanegol