Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Seremonïau Dinasyddiaeth


Summary (optional)
Cyflwynwyd Seremonïau Dinasyddiaeth i sicrhau bod ennill dinasyddiaeth nid yn unig yn broses weinyddol ffurfiol ond bod pawb sy'n gwneud cais llwyddiannus am ddinasyddiaeth yn cael cyfle i ddathlu'r achlysur mewn Seremoni.
start content

Yng Nghonwy, mae seremonïau dinasyddiaeth yn gyfle i groesawu dinasyddion newydd i'r Sir, atgyfnerthu eu hawliau a'u cyfrifoldebau a'u hannog i gymryd rhan weithgar yn y gymuned leol.

Yn y Seremoni, mae'n rhaid i bob ymgeisydd dyngu llw o deyrngarwch i'r Goron ac addo cynnal gwerthoedd a chyfreithiau'r Wlad. Mae'r seremonïau yng Nghonwy yn achlysuron llawn mwynhad ac ystyr, ac mae Arglwydd Raglaw Ei Mawrhydi neu un o'i ddirprwyon, yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Corfforaethol a Rheoleiddio sef y Cynghorydd Philip Evans yn bresennol. Mae'r seremoni yn cael ei chynnal gan y Cofrestrydd Arolygu.

Yn lle mae’r seremonïau yn cael eu cynnal?

Cynhelir y seremonïau yn Neuadd y Dref, Llandudno bob pedair i chwe wythnos ar ddydd Sadwrn, fel arfer am 10.30am.Gellir eu cynnal ar gyfer grwpiau o hyd at 10 o bobl. Cewch ddod â hyd at 5 gwestai gyda chi ac fel arfer bydd lluniaeth ar gael. 

Cysylltwch â Gwasanaeth Cofrestru

end content