Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Seremonïau Adnewyddu Addunedau Priodas


Summary (optional)
Mae Seremoni Adnewyddu Addunedau Priodas yn achlysur unigryw a neilltuol i unrhyw gwpwl sy'n dymuno dathlu adnewyddu eu haddunedau priodas i'w gilydd.
start content

Gallai'r seremoni fod yn berthnasol am reswm arbennig megis:

  • Coffáu pen-blwydd priodas arbennig.
  • Os gwnaethoch chi briodi dramor, gallwch adnewyddu eich addunedau priodas mewn seremoni sy'n cael ei chynnal ar gyfer teulu a ffrindiau.
  • Ar ôl cyfnod anodd yn eich perthynas, mae'n bosibl y byddwch yn dymuno dathlu eich ymrwymiad newydd i'ch gilydd mewn seremoni bersonol
  • Gallech fod wedi cael seremoni briodas syml a’ch bod nawr eisiau gwahodd gwesteion nad oedd yn bresennol

Bydd y seremoni'n cael ei chynnal gan Gofrestrydd o'r Sir. Byddan nhw'n rhoi cymorth i chi ddewis cynnwys addas ar gyfer y seremoni a fydd ag ystyr arbennig i'r ddau ohonoch. Bydd y seremoni ei hun yn cynnwys cyflwyno a chroesawu, cydnabod plant y briodas, darlleniadau, ailddatgan addunedau, ailgysegru modrwyon neu gyfnewid modrwyon newydd, cyfarchiad gan rai a oedd yn westeion yn y seremoni gyntaf, llofnodi'r dystysgrif ger bron tystion a geiriau i gloi. Gellir cynnal y seremoni yn y swyddfa gofrestru neu mewn eiddo sydd wedi ei gymeradwyo.

Nodwch nad yw'r seremoni yn un cyfreithiol. Bydd angen dangos copi o'ch tystysgrif briodas cyn archebu'r seremoni.

Bydd ein swyddogion yn barod i egluro'r dewisiadau sydd ar gael a thrafod trefniadau'r Seremoni Adnewyddu Addunedau Priodas. Cysylltwch â'r swyddfa gofrestru.

Cysylltwch â Gwasanaeth Cofrestru

end content