Tref Llandudno - 2026: Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus arfaethedig
Fel preswylydd neu berchennog busnes yn yr ardal, mae’n debyg eich bod yn ymwybodol o broblemau ymddygiad gwrthgymdeithasol sy’n gysylltiedig â phobl yn yfed alcohol ar strydoedd tref Llandudno ac yn achosi aflonyddwch i fusnesau, preswylwyr ac ymwelwyr, sy’n niweidiol i’r ardal.
Mae’r Gorchmynion hyn yn ein galluogi i osod gwaharddiadau neu ofynion ar ardaloedd penodol fel bod dinasyddion sy’n parchu’r gyfraith yn gallu mwynhau mannau cyhoeddus heb i ymddygiad gwrthgymdeithasol effeithio arnynt.
Os caiff ei weithredu, bydd y Gorchymyn mewn grym am 3 blynedd, wedi hynny, ceir dewis i ymestyn am dair blynedd arall.
Mae’r Gorchymyn arfaethedig yn cyflwyno amodau o ran meddu ar alcohol ac yfed alcohol o fewn yr ardal gyfyngedig, ymgysylltu ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a chyfarwyddiadau i adael yr ardal. Caiff yr amodau eu gorfodi gan Heddlu Gogledd Cymru.
Ni fydd y cyfyngiadau yn berthnasol i’r ardaloedd sydd o fewn cwrtil eiddo trwyddedig.
Rydym yn cysylltu â chi fel rhan o’r broses ymgynghori ofynnol ar gyfer y Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus arfaethedig amgaeedig ar gyfer yr ardal a amlygwyd ar y cynllun sydd ynghlwm.
Bydd y cyfnod ymgynghori yn agored am 8 wythnos o 9 Rhagfyr 2026; y dyddiad cau ar gyfer sylwadau fydd 3 Chwefror 2027.
Os hoffech gopïau caled o'r cynnig, maent ar gael yn:
- Neuadd y Dref Llandudno
- Gorsaf Heddlu Llandudno
- Llyfrgell Llandudno
- Coed Pella, Bae Colwyn
Os hoffech wrthwynebu’r Gorchymyn arfaethedig, dylech wneud hynny’n ysgrifenedig, gan nodi’r rhesymau dros eich gwrthwynebiad, drwy e-bost i ConwyDiogelach@conwy.gov.uk, neu drwy’r post at Bennaeth Gwasanaeth - Diogelwch Cymunedol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Blwch Post 1, Bae Colwyn, LL29 0GG.
Dogfennau (fformat PDF):