Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Conwy Diogelach


Summary (optional)
Mae Conwy Diogelach yn sefydliad partneriaeth sy'n cydlynu ac yn dwyn ynghyd asiantaethau allweddol sy'n ymrwymedig i gynyddu diogelwch cymunedol yng Nghonwy drwy leihau trosedd ac anhrefn.
start content

Sefydlwyd Conwy Diogelach gan Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998. Rydym yn sefydliad statudol sy'n cydlynu ac yn cysylltu'r prif asiantaethau â'i gilydd, gan gynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Sir Ddinbych, Heddlu Gogledd Cymru (Rhanbarth Ganolog), Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Gwasanaeth Prawf Gogledd Cymru,  Bwrdd Iechyd Lleol Conwy a Thîm Troseddau Pobl Ifanc Sir Ddinbych. Mae'r sefydliadau hyn wedi ymroi i gynyddu diogelwch cymunedol yng Nghonwy trwy leihau troseddau ac anhrefn yn lleol.

Mae gan y bartneriaeth 5 is-grŵp i ymdrin â'r materion uchod. Dyma Flaenoriaethau'r Bartneriaeth sydd wedi'u nodi yn yr adrannau isod.

Troseddau Difrifol a Gwrth derfysgaeth

  •    Llai o bobl yn ail ddioddef Trais Domestig
  •    Rhagor o ddioddefwyr yn rhoi gwybod am drais domestig am y tro cyntaf
  •    Lleihau faint o gyffuriau Dosbarth A sydd ar gael

Blaenoriaethau Lleol

  •    Delio â Throseddau Amgylcheddol yn effeithlon(baw cŵn, taflu ysbwriel a graffiti)
  •    Lleihau troseddau'n gysylltiedig ag alcohol
  •    Lleihau difrod troseddol ac ymddygiad gwrthgymdeithasol

Lleihau Aildroseddu

  •    Llai o bobl yn aildroseddu
  •    Llai o bobl ifanc yn aildroseddu
  •    Llai o droseddau gan droseddwyr cyson

Delio â Chamddefnyddio Sylweddau

  •    Cynyddu atgyfeiriadau at wasanaethau triniaeth strwythuredig
  •    Cynyddu faint o bobl mae'r Gwasanaeth Lleihau Niwed yn ymgysylltu â nhw
  •    Camddefnyddio alcohol gan bobl ifanc dan 18 oed

Hyrwyddo Diogelwch Cymunedol

  •    Lleihau ofn ynglŷn â throseddau
  •    Cynyddu cysur
  •    Cynnwys cymunedau wrth weithredu'r Cynllun Gweithredu

Ble a sut gallwch chi gysylltu â ni

Gwasanaethau Rheoleiddio,
Blwch Post 1,
Conwy,
LL30 9GN    

E-bost : conwydiogelach@conwy.gov.uk
Ffôn: 01492 575190


Rhybudd Cymunedol Gogledd Cymru

Adrodd am Droseddau Casineb

end content