Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Troseddau ac Argyfyngau Trosedd Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb

Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb


Summary (optional)
start content

Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Troseddau Casineb yn wythnos genedlaethol o weithredu i annog cymunedau y mae troseddau casineb yn effeithio arnynt, awdurdodau lleol, heddluoedd a phartneriaid allweddol eraill i gydweithio i fynd i’r afael â materion troseddau casineb lleol.

Gwerth craidd yr wythnos yw sefyll mewn undod â’r rhai y mae troseddau casineb yn effeithio arnynt, cofio’r rhai yr ydym wedi’u colli, a chefnogi’r rhai y mae angen cymorth parhaus arnynt.

Thema Cymru eleni yw #CymruYnghyd

Beth yw Trosedd Casineb? 

Trosedd casineb yw unrhyw drosedd a ysgogir gan ragfarn yn erbyn un neu'n fwy o agweddau ar hunaniaeth person.  

  • Os yw rhywun yn cael ei dargedu oherwydd eu Hil, Crefydd, Cyfeiriadedd Rhywiol, Hunaniaeth Drawsrywiol neu Anabledd - trosedd casineb yw hynny.
  • Gellir targedu agweddau eraill ar hunaniaeth person hefyd. Gall y rhain gynnwys; Oedran, Isddiwylliant, Rhyw/Rhywedd, Pwysau a Lliw Gwallt, ymhlith eraill. Gall y rhain gael eu hadrodd a'u cefnogi fel digwyddiadau casineb.

Sut mae troseddau casineb yn cael eu diffinio yn y gyfraith? 

Mae Troseddau Casineb yn drosedd neu’n ddigwyddiad wedi'u cymell gan ragfarn yn erbyn o leiaf 1 o’r 5 nodwedd warchodedig.

Beth yw hunaniaeth?

Mae yna bum categori hunaniaeth (troseddau casineb)

  • Anabledd
  • Hil neu ethnigrwydd
  • Crefydd / cred
  • Tueddfryd rhywiol
  • Hunaniaeth rhywedd

Trosedd casineb yw lle bydd unigolion yn cael eu targedu am eu hunaniaeth neu'r hyn y bydd rhywun yn ystyried yn wahaniaeth. Gallai fod yn weithred o drais, gelyniaeth neu wahaniaethu. Gallai dioddefwyr fod wedi cael eu bwlio, eu haflonyddu neu eu cam-drin. Gall hyn ddigwydd yn y gweithle.
 
Mae troseddau casineb yn difetha bywydau ac yn arwahanu unigolion bregus a chymunedau. Rydym yn gwybod ei fod yn digwydd ond mae’r achosion yn dal i gael eu tan-riportio. Heb i’r achosion hyn gael eu riportio, mae troseddwyr yn rhydd i barhau i ddal ati i droseddu. Rydym am i hyn newid. Rydym am i bawb annog a chefnogi pobl i siarad am droseddau casineb ac yn bwysicaf oll i’w riportio. 

Sut mae adrodd am droseddau casineb?

Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob tro.  Mewn achos nad yw’n achos brys, gallwch ffonio 101 ar gyfer yr heddlu neu 0300 30 31 982 ar gyfer Canolfan Cymorth Casineb Cymru, i gael mynediad at wasanaethau cymorth annibynnol.

Chwilio am help gyda Throsedd Gasineb?

Yng Nghymru, mae Canolfan Cymorth Casineb Cymru a redir gan Gymorth i Ddioddefwyr ar agor 24/7. Gall eu cefnogaeth gyfrinachol, annibynnol a rhad ac am ddim eich helpu i ymdopi ac adfer o effaith Torsedd Gasineb. Gallant hefyd adrodd wrth yr heddlu ar eich rhan.

Beth sydd ymlaen?

Yng Ngogledd Cymru, mae Cymorth i Ddioddefwyr Cymru ynghyd â Heddlu Gogledd Cymru, y Comisiynydd Heddlu a Throsedd a Thimau Cydlyniant Cymunedol y Gogledd-Ddwyrain a’r Gogledd-Orllewin yn cydweithio i gynnal sesiwn ar-lein ddydd Mawrth 11eg o Hydref, 2022 am 4yh drwy 'zoom' i edrych ar y rhwystrau i riportio troseddau casineb.

Gweler hefyd y ddolen isod i galendr o ddigwyddiadau a gynhelir ledled Cymru yn ystod yr wythnos

end content