Gall argyfyngau bob dydd darfu ar y gwasanaethau hanfodol rydych chi'n dibynnu arnyn nhw, fel eich dŵr, trydan, ffôn a rhyngrwyd.
Gall cymryd camau syml i baratoi wneud gwahaniaeth mawr, gan eich helpu i ymdopi tra bo cymorth brys yn cyrraedd y bobl sydd ei angen fwyaf.
Dysgwch fwy am sut i baratoi ar wefan GOV.UK.
Gwydnwch personol/teuluol:
Gallwch ddod o hyd i dempled i'ch helpu i baratoi cynllun argyfwng personol neu deuluol yn Cynllun Argyfwng i’r Cartref.
Gwydnwch cymunedol:
- Mae gwybodaeth i helpu eich cymuned i baratoi yn Chwaraewch eich rhan yn eich cymuned fel eich bod chi'n barod i ymateb os bydd argyfwng yn digwydd yn eich ardal.
- Mae Ready Together yn helpu cymunedau ledled y DU i baratoi ar gyfer argyfyngau gyda'i gilydd. Mae'n becyn cymorth am ddim gan yr Ymddiriedolaeth Argyfyngau Genedlaethol, sy'n cynnig ffyrdd syml ac ymarferol i gymunedau baratoi cyn i argyfwng ddigwydd.
- Os ydych chi’n byw mewn ardal lle mae perygl llifogydd, mae’n syniad da bod â Chynllun Llifogydd Cymunedol. Gall hyn helpu’r gymuned gyfan i ymateb yn gyflym, amddiffyn cymdogion bregus a rhoi gwybodaeth bwysig i’r gwasanaethau brys.
Cofrestr Risg Gymunedol:
- Mae Cofrestr Risg Gymunedol Gogledd Cymru yn darparu gwybodaeth am yr argyfyngau mwyaf a allai ddigwydd yn y rhanbarth. Mae hyn yn cynnwys yr effaith ar bobl, cymunedau, yr amgylchedd a busnesau lleol.
Gwasanaeth Cynllunio at Argyfwng Rhanbarthol Cynghorau Gogledd Cymru: