Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Symud o'ch cartref


Summary (optional)
start content

Ni fyddwch yn cael eich symud o’ch cartref oni bai fod gwir angen, ond mae hynny'n fwy cyffredin nag y tybiwch. Er enghraifft, pan fydd nwy yn gollwng bydd y gwasanaethau brys yn mynnu bod pawb yn y stryd yn symud o’u tai.

Nid yw pob digwyddiad o’r fath yn y tymor hir. Yn aml, bydd y trigolion yn dychwelyd i’w tai o fewn rhai oriau gan fod yr argyfwng wedi darfod ond mewn achosion eraill, fel digwyddiad cemegol, efallai na fydd modd ichi fyw yn eich tŷ nes ei fod wedi ei ddiheintio.

Felly, mae'n syniad da paratoi am adeg pan fydd yn rhaid i chi symud o’ch tŷ

  • Gwrandewch ar gyngor gan y gwasanaethau brys bob amser. Byddant yn dweud wrthych sut a phryd i adael eich cartref a lle i fynd.
  • Trafodwch  gyda’ch teulu yr hyn y byddech yn ei wneud os byddai’n rhaid i chi adael. Trefnwch le i fynd pe bai rhaid ichi symud o’ch tŷ / pentref / tref, a threfnwch sut i gyrraedd yno gan gofio bod y ffyrdd yn debygol o      fod yn brysur iawn.
  • Trefnwch le i gyfarfod â'ch teulu petaech yn cael eich gwahanu yn ystod argyfwng neu drychineb.
  • Holwch ble byddai’r plant yn cael eu hanfon pe bai rhaid symud disgyblion o’r ysgol. Cofiwch y gallai’r trefniadau hynny newid ar fyr rybudd pe bai'r man cyfarfod yn rhy beryglus.
  • Paratowch becyn argyfwng sy'n cynnwys meddyginiaeth presgripsiwn a chyffredinol, eitemau ar gyfer babanod (os yw’n berthnasol), deunydd ymolchi, rhifau ffôn, radio ac ati.
  • Gofalwch eich bod yn gwybod sut i ddiffodd y prif gyflenwad trydan, nwy a dŵr i'ch tŷ, a bod offer priodol i wneud hynny gennych wrth law.
  • Os ydych yn disgwyl tywydd oer iawn tra ydych oddi cartref, gofalwch warchod pibelli dŵr y tŷ rhag rhewi.
  • Gofalwch eich bod yn cloi ffenestri a drysau eich tŷ cyn ymadael.

Anifeiliaid anwes

  • Os bydd yn rhaid i chi symud o'ch cartref, gadewch eich anifeiliaid anwes yno. Efallai y bydd yn rhaid eu gadael gyda’r RSPCA nes y dowch yn ôl.
  • Os oes rhaid ichi fynd â’ch anifail anwes gyda chi gofalwch bod gennych gynhwysydd addas neu dennyn ar ei gyfer.
end content