Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Colli Cyflenwad Pŵer ac Argyfyngau


Summary (optional)
Mae rhif newydd i’w ffonio os oes toriad trydan.
start content

105 yn rhif newydd y gallwch ei ffonio i roi gwybod neu gael gwybodaeth am doriad trydan. Bydd yn eich rhoi trwodd i weithredwr eich rhwydwaith trydan lleol - y cwmni sy'n rheoli’r ceblau, gwifrau ac is-orsafoedd sy'n dod â thrydan i gartrefi a busnesau yn eich ardal.

Mae 105 yn wasanaeth rhad ac am ddim i bobl yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, a gallwch ffonio'r rhif o'r rhan fwyaf o linellau tir a ffonau symudol. Nid oes ots pwy ydych yn dewis prynu eich trydan ganddynt - gall unrhyw un alw 105.

Gallwch hefyd ffonio 105 os gwelwch ddifrod i linellau pŵer trydan ac is-orsafoedd a all eich rhoi chi, neu rywun arall, mewn perygl. Os oes risg uniongyrchol difrifol, ffoniwch y gwasanaethau brys hefyd.

Peidiwch â bod yn y tywyllwch.  Ffoniwch 105

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.powercut105.com

end content