CYNGOR BWRDEISTREF SIROL CONWY
GORCHYMYN GWARCHOD MANNAU CYHOEDDUS RHEOLI CŴN 2026
DEDDF YMDDYGIAD GWRTHGYMDEITHASOL, TROSEDDU A PHLISMONA 2014
(RHAN 4 PENNOD 2 ADRANNAU 59-75)
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ("y Cyngor") wrth arfer ei rymoedd o dan Adran 59 Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 ("y Ddeddf") ac o dan yr holl rymoedd galluogi eraill, yn gwneud y gorchymyn canlynol:
1. Gellir galw’r Gorchymyn yn “Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus (Rheoli Cŵn) Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy 2026” (‘y Gorchymyn’) ac mae’n berthnasol i bob man cyhoeddus a ddisgrifir yn Atodlenni’r Gorchymyn ac a ddangosir ar y cynlluniau sydd ynghlwm wrth y Gorchymyn hwn (“yr ardaloedd cyfyngedig”).
2. Wrth wneud y Gorchymyn hwn, mae’r Cyngor yn fodlon ar sail resymegol bod:-
(i) gweithgareddau a gynhaliwyd mewn man cyhoeddus o fewn ardal yr awdurdod wedi cael effaith andwyol ar ansawdd bywyd rheini yn yr ardal, neu mae’n debygol y bydd gweithgareddau yn cael eu cynnal mewn man cyhoeddus yn yr ardal ac y byddant yn cael effaith o’r fath;
(ii) yr effaith, neu effaith tebygol y gweithgareddau yn, neu’n debygol o fod o natur gyson neu barhaol, neu’n debygol o fod i wneud y gweithgareddau yn afresymol, ac yn cyfiawnhau’r cyfyngiadau a osodir gan y Gorchymyn.
3. Mae’r Cyngor hefyd yn fodlon bod y gwaharddiadau a gofynion a nodir yn y Gorchymyn hwn yn rhesymol:-
(i) i atal yr effaith andwyol ar ansawdd bywyd pobl yn yr ardal rhag parhau, digwydd neu ddychwelyd; neu
(ii) i leihau’r effaith andwyol neu i leihau’r risg ei fod yn parhau, yn digwydd neu'n dychwelyd.
4. Fe ddaw’r Gorchymyn hwn i rym ar TBC a bydd yn parhau i fod mewn grym am gyfnod o dair blynedd o’r dyddiad hwnnw.
5. Cyn i’r Gorchymyn hwn ddod i ben, fe all y Cyngor ei ymestyn, ei amrywio neu ei ddileu yn unol â darpariaethau’r Ddeddf.
YN Y GORCHYMYN HWN
6. Effaith y Gorchymyn ydi gosod y cyfyngiadau a/neu ofynion canlynol yn yr ardaloedd cyfyngedig bob amser:-
(i) BAEDDU TIR GAN GŴN
(a) Os bydd ci yn ysgarthu ar unrhyw adeg ar dir yn yr ardal dan gyfyngiadau a fanylir yn Atodlen 1 y Gorchymyn hwn, rhaid i’r unigolyn sydd â chyfrifoldeb dros y ci ar yr adeg hynny gael gwared ar y baw o’r tir ar unwaith, oni bai:-
(i) bod gan yr unigolyn hwnnw esgus rhesymol dros fethu â gwneud hynny; neu
(ii) bod y perchennog/meddiannydd y tir neu unigolyn neu awdurdod arall sydd â rheolaeth dros y tir wedi cydsynio (yn gyffredinol neu’n benodol) i’r unigolyn hwnnw beidio â gwneud hynny; neu
(iii) bod yr unigolyn hwnnw yn destun yr eithriadau a restrir yn Atodlen 1.
(b) At ddibenion yr erthygl hon:-
(i) cymerir bod unigolyn y mae ci fel rheol yn ei feddiant yn gyfrifol am y ci hwnnw ar unrhyw adeg oni bai fod rhyw unigolyn arall yn gyfrifol am y ci hwnnw ar yr adeg honno
(ii) bydd gosod y baw mewn cynhwysydd a ddarperir ar y tir at y diben hwnnw, neu ar gyfer gwaredu gwastraff, yn ddigonol i gael gwared ohono oddi ar y tir;
(iii) ni fydd bod yn anymwybodol o’r ysgarthu (naill ai gan nad oeddech yn y cyffiniau neu fel arall), neu nad oes gennych declyn i gael gwared ar y baw ci neu ddull arall addas o wneud hynny yn esgus rhesymol dros fethu â chael gwared ar y baw ci.
(ii) DULL I GAEL GWARED AR FAW
(a) Mae’n rhaid i unigolyn sydd â chyfrifoldeb dros gi ar dir yn yr ardal dan gyfyngiadau a fanylir yn Atodlen 2 fod â theclyn addas gyda nhw i bigo baw'r ci oni bai -
(i) bod gan yr unigolyn hwnnw esgus rhesymol dros beidio â gwneud hynny; neu
(ii) bod y perchennog/meddiannydd y tir neu unigolyn neu awdurdod arall sydd â rheolaeth dros y tir wedi cydsynio (yn gyffredinol neu’n benodol) i’r unigolyn hwnnw fethu â gwneud hynny; neu
(iii) bod yr unigolyn hwnnw yn destun yr eithriadau a restrir yn Atodlen 2.
(b) Fe gydymffurfir â’r rhwymedigaeth yn Erthygl 6 (ii) (a) os bydd yr unigolyn sydd â chyfrifoldeb dros y ci yn cyflwyno dull addas o bigo baw’r ci i fyny, yn dilyn cais gan swyddog awdurdodedig o’r Cyngor i wneud hynny.
(c) Yn yr erthygl hon o’r Gorchymyn, ystyr 'swyddog awdurdodedig o’r Cyngor’ ydi unigolyn sydd wedi’i awdurdodi gan y Cyngor at ddibenion rhoi cyfarwyddiadau o dan yr erthygl hon.
(iii) GWAHARDD CŴN – GWAHARDDIAD GYDOL Y FLWYDDYN
(a) Ni ddylai unigolyn sydd â chyfrifoldeb dros gi fynd â’r ci hwnnw ar unrhyw dir yn yr ardaloedd cyfyngedig y cyfeirir atynt yn Atodlen 3 y Gorchymyn hwn, neu ganiatáu iddynt fynd arno neu aros arno oni bai:-
(i) bod gan yr unigolyn hwnnw esgus rhesymol dros wneud hynny; neu
(ii) bod perchennog y tir, meddiannydd y tir neu unigolyn neu awdurdod arall sydd â rheolaeth dros y tir wedi cydsynio (yn gyffredinol neu’n benodol) i’r unigolyn wneud hynny; neu
(iii) bod yr unigolyn hwnnw yn destun yr eithriadau a restrir yn Atodlen 3.
(b) At ddiben yr erthygl hon:-
(i) cymerir bod unigolyn y mae ci fel rheol yn ei feddiant yn gyfrifol am y ci hwnnw ar unrhyw adeg oni bai fod rhyw unigolyn arall yn gyfrifol am y ci hwnnw ar yr adeg honno.
(iv) GWAHARDD CŴN – GWAHARDDIAD TYMHOROL
(a) Ni ddylai unigolyn sydd â chyfrifoldeb dros gi fynd â’r ci hwnnw ar unrhyw dir yn yr ardaloedd cyfyngedig y cyfeirir atynt yn Atodlen 4 y Gorchymyn hwn, neu ganiatáu iddynt fynd arno neu aros arno oni bai:-
(i) bod gan yr unigolyn hwnnw esgus rhesymol dros wneud hynny; neu
(ii) bod perchennog y tir, meddiannydd y tir neu unigolyn neu awdurdod arall sydd â rheolaeth dros y tir wedi cydsynio (yn gyffredinol neu’n benodol) i’r unigolyn wneud hynny; neu (iii) bod yr unigolyn hwnnw yn destun yr eithriadau a restrir yn Atodlen 4.
(b) At ddiben yr erthygl hon:-
(i) cymerir bod unigolyn y mae ci fel rheol yn ei feddiant yn gyfrifol am y ci hwnnw ar unrhyw adeg oni bai fod rhyw unigolyn arall yn gyfrifol am y ci hwnnw ar yr adeg honno.
(v) CŴN AR DENNYN
(a) Rhaid i unigolyn sydd â chyfrifoldeb dros gi ar unrhyw adeg, roi a chadw’r ci ar dennyn yn yr ardal dan gyfyngiadau a fanylir yn Atodlen 5 oni bai:-
(i) bod gan unigolyn esgus rhesymol dros beidio â gwneud hynny; neu
(ii) bod perchennog y tir, meddiannydd y tir neu unigolyn neu awdurdod arall sydd â rheolaeth dros y tir wedi cydsynio (yn gyffredinol neu’n benodol) i’r unigolyn wneud hynny.
(b) At ddiben yr erthygl hon:-
(i) cymerir bod unigolyn y mae ci fel rheol yn ei feddiant yn gyfrifol am y ci hwnnw ar unrhyw adeg oni bai fod rhyw unigolyn arall yn gyfrifol am y ci hwnnw ar yr adeg honno.
(vi) CŴN AR DENNYN TRWY GYFARWYDDYD
(a) Rhaid i unigolyn sydd â chyfrifoldeb dros gi ar unrhyw adeg, roi a chadw’r ci ar dennyn pan roddir cyfarwyddyd iddynt wneud hynny yn yr ardal dan gyfyngiadau a fanylir yn Atodlen 6 oni bai:-
(i) bod gan unigolyn esgus rhesymol dros beidio â gwneud hynny; neu
(ii) bod perchennog y tir, meddiannydd y tir neu unigolyn neu awdurdod arall sydd â rheolaeth dros y tir wedi cydsynio (yn gyffredinol neu’n benodol) i’r unigolyn wneud hynny.
(b) At ddiben yr erthygl hon:-
(i) cymerir bod unigolyn y mae ci fel rheol yn ei feddiant yn gyfrifol am y ci hwnnw ar unrhyw adeg oni bai fod rhyw unigolyn arall yn gyfrifol am y ci hwnnw ar yr adeg honno;
(ii) ni chaiff swyddog awdurdodedig o’r Cyngor roi cyfarwyddyd o dan y Gorchymyn hwn i roi ci ar dennyn a’i gadw arno oni fo’r cyfryw lyffethair yn rhesymol angenrheidiol i atal niwsans neu ymddygiad gan y ci sy’n debygol o beri blinder neu aflonyddwch i unrhyw unigolyn arall ar unrhyw dir y mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo neu o gyffroi unrhyw anifail neu aderyn neu aflonyddu arnynt.
(iii) yn yr erthygl hon, ystyr “swyddog awdurdodedig o’r Cyngor” ydi unigolyn sydd wedi’i awdurdodi gan y Cyngor at ddibenion rhoi cyfarwyddiadau o dan yr erthygl hon.
7. COSB
7.1 Bydd unrhyw unigolyn, heb reswm rhesymol yn methu â chydymffurfio â’r gofynion neu waharddiadau yn erthyglau 6(i), 6 (ii), 6(iii), 6(iv), 6(v), 6(vi) y Gorchymyn hwn, yn agored o'i gollfarnu’n ddiannod, i ddirwy nad yw’n fwy na lefel 3 (£1000 ar hyn o bryd) ar y raddfa safonol.
8. COSB BENODEDIG
8.1 Gall cwnstabl, Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu neu unigolyn awdurdodedig o’r Cyngor roi rhybudd cosb benodedig i unigolyn y mae o neu hi yn credu sydd wedi cyflawni trosedd. Rhaid i unigolyn sy’n cyflawni trosedd dalu’r gosb benodedig o £100 o fewn 28 diwrnod, ac os na fyddant yn gwneud hynny, efallai y cânt eu herlyn.
8.2 Rhybudd cosb benodedig ydi rhybudd sydd yn rhoi cyfle i’r unigolyn a’i derbyniodd i ryddhau unrhyw atebolrwydd i gollfarn am y drosedd trwy dalu cosb benodedig i’r Cyngor.
8.3 Pan fydd unigolyn yn derbyn rhybudd cosb benodedig o dan y Gorchymyn hwn:-
(a) ni ellir dwyn achos am y drosedd cyn diwedd cyfnod o 28 diwrnod ar ôl dyddiad y rhybudd;
(b) ni ellir dyfarnu unigolyn yn euog am y drosedd os ydi’r unigolyn hwnnw yn talu’r gosb benodedig cyn diwedd y cyfnod hwnnw.
9. APELIADAU
9.1 Rhaid cyflwyno unrhyw her i’r Gorchymyn hwn i’r Uchel Lys gan berson â buddiant o fewn 6 wythnos ar ôl iddo gael ei gyflwyno neu ei amrywio. “Person â buddiant” ydi rhywun sy’n byw, neu’n gweithio’n rheolaidd, neu'n ymweld â’r ardal gyfyngedig. Mae hyn yn golygu mai dim ond y rhai a effeithir yn uniongyrchol gan y cyfyngiadau sydd â’r hawl i apelio. Mae’r hawl i herio hefyd yn bodoli lle mae gorchymyn yn cael ei amrywio gan y Cyngor.
9.2 Gall personau â buddiant herio dilysrwydd y Gorchymyn ar ddwy sail:-
(i) nad oedd gan y Cyngor y pŵer i wneud y gorchymyn neu amrywiad, neu i gynnwys gwaharddiadau neu ofynion penodol a osodwyd gan y Gorchymyn; neu
(ii) na chydymffurfiwyd â gofyniad o dan y ddeddfwriaeth i wneud neu amrywio Gorchymyn.
9.3 Pan gyflwynir cais, gall yr Uchel Lys benderfynu atal gweithrediad y Gorchymyn, neu rai o’r gwaharddiadau neu ofynion a osodwyd gan y Ddeddf, nes y gwneir penderfyniad terfynol.
9.4 Mae gan yr Uchel Lys y gallu i gynnal y Gorchymyn, ei ddileu neu ei amrywio.
ARDALOEDD CYFYNGEDIG
ATODLEN 1 - BAEDDU TIR GAN GŴN
(1) Pob man cyhoeddus o fewn ardal gyfan Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy fel y’u dangosir yng Nghynllun 1.
Ystyr “Man Cyhoeddus” yn y Gorchymyn hwn ydi unrhyw dir:-
(i) sydd yn agored i’r awyr (sy’n cynnwys unrhyw dir dan do ond yn agored i’r awyr ar o leiaf un ochr); a
(ii) tir y mae gan y cyhoedd neu ran o’r cyhoedd hawl neu ganiatâd i gael mynediad iddo (gyda neu heb daliad), trwy hawl neu yn rhinwedd caniatâd penodol neu ymhlyg.
(2) Eithriadau – Does dim yn yr Atodlen hon yn berthnasol i unigolyn:-
(i) sydd wedi cofrestru’n swyddogol fel unigolyn dall; neu
(ii) sydd ag anabledd sydd yn effeithio ar ei symudedd, ei law deheurwydd, ei gydsymud corfforol neu eu allu i godi, i gario neu i symud gwrthrychau bob dydd mewn modd arall, mewn perthynas â chi a hyfforddwyd gan elusen ragnodedig ac y mae’r unigolyn hwnnw yn dibynnu arno am gymorth; neu
(iii) yn defnyddio ci gwaith at ddibenion gorfodi’r gyfraith, dyletswyddau milwrol, gwasanaethau brys statudol (chwilio ac achub) neu i gyfeirio anifeiliaid, tra bod y ci’n gweithio.
(3) At ddiben yr Atodlen hon, mae'r canlynol yn "elusennau a ragnodwyd":-
(i) Dogs for the Disabled (elusen gofrestredig rhif 700454);
(ii) Support Dogs (elusen gofrestredig rhif 1088281); a
(iii) Canine Partners for Independence (elusen gofrestredig rhif 803680).
ATODLEN 2 - DULL I GAEL GWARED AR FAW
(1) Pob man cyhoeddus o fewn ardal gyfan Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy fel y’u dangosir yng Nghynllun 1.
Ystyr “Man Cyhoeddus” yn y Gorchymyn hwn ydi unrhyw dir:-
(i) sydd yn agored i’r awyr (sy’n cynnwys unrhyw dir dan do ond yn agored i’r awyr ar o leiaf un ochr); a;
(ii) tir y mae gan y cyhoedd neu ran o’r cyhoedd hawl neu ganiatâd i gael mynediad iddo (gyda neu heb daliad), trwy hawl neu yn rhinwedd caniatâd a fynegwyd neu ymhlyg.
(2) Eithriadau – Does dim yn yr Atodlen hon yn berthnasol i unigolyn:-
(i) sydd wedi cofrestru’n swyddogol fel unigolyn dall; neu
(ii) sydd ag anabledd sydd yn effeithio ar ei symudedd, ei law deheurwydd, ei gydsymud corfforol neu eu gallu i godi, i gario neu i symud gwrthrychau bob dydd mewn modd arall, mewn perthynas â chi a hyfforddwyd gan elusen ragnodedig ac y mae’r unigolyn hwnnw yn dibynnu arno am gymorth; neu

ATODLEN 3 - GWAHARDD CŴN (GWAHARDDIAD GYDOL Y FLWYDDYN)
(1) Pob man cyhoeddus o fewn ardal gyfan Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy fel y’u dangosir yng Nghynllun 1, yn benodol yn ymwnued â’r ardaloedd isod
(a) Pob Lle Chwarae Plant a Ffensiwyd
(b) Pob Ardal Gemau Amlddefnydd
(c) Pob Cwrt Tennis
(d) Pob Parc Sglefrio
(e) Pob Lawnt Fowlio
(f) Pob Maes Hamdden sy’n gysylltiedig â Sefydliadau Addysgol
(g) Pob Ardal Chwarae Maes Chwaraeon a Farciwyd
Gan gynnwys hefyd y meysydd penodol a restrir isod ac a ddangosir mewn coch yng Nghynllun 2
(h) Cae Chwaraeon a Hamdden Betws Yn Rhos, Betws Yn Rhos
(i) Cae Chwarae Capel Garmon, Capel Garmon
(j) Cae Pêl-droed Cae Ffwt, Glan Conwy
(k) Cae Chwarae Gyffin, Gyffin
(l) Ardal Hamdden Ffordd Gowers, Trefriw
(m) Cae Chwarae Cae Llwyd, Cerrigydrudion
(n) Cae Chwarae Maes Aled, Llansannan
(o) Cae Pêl-droed, lawnt fowlio a’r ardal gemau amlddefnydd, Llansannan
(p) Cae Pêl-droed, lawnt fowlio, pwll nofio, cyrtiau tennis a’r ardal chwarae plant, Llanfairfechan
(q) Clwb Golff Gogledd Cymru ac eithrio llwybrau troed cyhoeddus gyda hynny, Llandudno
(r) Traeth Bae Colwyn - rhan o’r traeth rhwng y marc dŵr isel a wal y promenâd rhwng y pwynt ochr y môr o bentir Porth Eirias ac ochr ddwyreiniol llinell pier Bae Colwyn.
(s) Rhos Point, Llandrillo-yn-Rhos - y darn bach o draeth tywodlyd heb ei olchi gan y llanw.
(t) Cae Cymuned Minafon, Hen Golwyn
(u) Parc Penmachno, Stryd Newgate, Penmachno
(v) Rhos Point i Bwynt Mynediad y Promenâd yn unol â Rhodfa’r Coleg, Llandrillo-yn-Rhos - rhan o’r traeth rhwng y marc dŵr isel a wal y promenâd.
(w) Traeth Llandrillo-yn-Rhos o flaen Arglawdd Cayley, Promenâd Cayley - y rhan o’r traeth rhwng yr arwydd dŵr isel a wal y promenâd.
Ystyr “Man Cyhoeddus yn y Gorchymyn hwn ydi unrhyw dir:-
(i) sydd yn agored i’r awyr (sy’n cynnwys unrhyw dir dan do ond yn agored i’r awyr ar o leiaf un ochr); a;
(ii) tir y mae gan y cyhoedd neu ran o’r cyhoedd hawl neu ganiatâd i gael mynediad iddo (gyda neu heb daliad), trwy hawl neu yn rhinwedd caniatâd a fynegwyd neu ymhlyg.
(2) Eithriadau – Does dim yn yr Atodlen hon yn berthnasol i unigolyn:-
(i) sydd wedi cofrestru’n swyddogol fel unigolyn dall; neu
(ii) sydd ag anabledd sydd yn effeithio ar ei symudedd, ei law deheurwydd, ei gydsymud corfforol neu eu gallu i godi, i gario neu i symud gwrthrychau bob dydd mewn modd arall, mewn perthynas â chi a hyfforddwyd gan elusen ragnodedig ac y mae’r unigolyn hwnnw yn dibynnu arno am gymorth; neu
(iii) yn defnyddio ci gwaith at ddibenion gorfodi’r gyfraith, dyletswyddau milwrol, gwasanaethau brys statudol (chwilio ac achub) neu i gyfeirio anifeiliaid, tra bod y ci’n gweithio.
(3) At ddiben yr Atodlen hon, mae'r canlynol yn "elusennau a ragnodwyd":-
(i) Dogs for the Disabled (elusen gofrestredig rhif 700454);
(ii) Support Dogs (elusen gofrestredig rhif 1088281); a
(iii) Canine Partners for Independence (elusen gofrestredig rhif 803680).
ATODLEN 4 - GWAHARDD CŴN – GWAHARDDIAD TYMHOROL
(1) Pob traeth yn dymhorol rhwng 1 Mai a 30 Medi gan gynnwys glan y môr a blaen draeth yn unol ag (a) i (e) isod ac fel y’u dangosir mewn coch ar Gynllun 3.
(a) Pensarn – yr ardal o draeth rhwng y marc llanw isel a’r promenâd rhwng y polion pren fewnosodwyd yn gyfagos i adeilad y caffi a’r polion concrid a fewnosodwyd ar ben eithaf gorllewinol y promenâd.
(b) Traeth y Gogledd Llandudno - yr ardal o draeth rhwng y marc llanw isel a’r promenâd yn ymestyn o Bier Llandudno i’r llithrfa gyntaf (ond ddim yn cynnwys y llithrfa).
(c) Pen Morfa Llandudno – y darn o draeth sy’n ymestyn rhwng y marc llanw isel a’r promenâd sy’n ymestyn rhwng y ddau grwyn cerrig.
(d) Penmaenmawr – ardal o’r traeth rhwng y marc dŵr isel a’r promenâd o’r ochr ddwyreiniol o’r caffi a leolir ar y promenâd a’r llithrfa sy’n gysylltiedig â’r clwb hwylio.
(e) Llanfairfechan – ardal o’r traeth sy’n ymestyn rhwng y marc dŵr isel a’r promenâd rhwng y brif lithrfa a cheg yr afon (ond nid i gynnwys y lithrfa)
(2) Eithriadau – Does dim yn yr Atodlen hon yn berthnasol i unigolyn:-
(i) sydd wedi cofrestru’n swyddogol fel unigolyn dall; neu
(ii) sydd ag anabledd sydd yn effeithio ar ei symudedd, ei law deheurwydd, ei gydsymud corfforol neu eu gallu i godi, i gario neu i symud gwrthrychau bob dydd mewn modd arall, mewn perthynas â chi a hyfforddwyd gan elusen ragnodedig ac y mae’r unigolyn hwnnw yn dibynnu arno am gymorth; neu
(iii) yn defnyddio ci gwaith at ddibenion gorfodi’r gyfraith, dyletswyddau milwrol, gwasanaethau brys statudol (chwilio ac achub) neu i gyfeirio anifeiliaid, tra bod y ci’n gweithio.
(3) At ddiben yr Atodlen hon, mae'r canlynol yn "elusennau a ragnodwyd":-
(i) Dogs for the Disabled (elusen gofrestredig rhif 700454);
(ii) Support Dogs (elusen gofrestredig rhif 1088281); a
(iii) Canine Partners for Independence (elusen gofrestredig rhif 803680).
ATODLEN 5 - CŴN AR DENNYN
(1) Pob ffordd gyhoeddus a phalmant sydd yn destun cyfyngiad cyflymder o 40mya neu lai o fewn ardal gyfan Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
(a) Yn y Gorchymyn hwn, y diffiniad o “ffordd” ydi pob priffordd gyhoeddus sydd â hawl tramwy i gerbydau modur (sydd yn cynnwys ardaloedd ar gyfer palmentydd, troedffyrdd ac ymylon ffordd ar gyfer cerddwyr o fewn priffordd);
(b) Yn adran 185(1) Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1988 ac adran 136(1) Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, y diffiniad o “gerbydau modur” ydi “cerbyd a yrrir yn fecanyddol a fwriadwyd neu a addaswyd i’w ddefnyddio ar ffyrdd”.
(2) Yr holl dir yn ardal gyfan Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy fel y dangosir yng Nghynlluniau 1, yn benodol
(a) Pob Mynwent ac lard Eglwys
(b) Pob Maes Parcio
Gan gynnwys hefyd y meysydd penodol a restrir isod ac a ddangosir mewn piws yng Nghynllun 4
(c) Caeau Chwarae Cae Derw, Cyffordd Llandudno; nid yw’n cynnwys yr ardal â ffens a ddynodwyd ar gyfer ymarfer corff i gŵn
(d) Cae Chwarae Trinity Avenue Llandudno; ac eithrio’r ardal a ddynodwyd (llinell derfyn) ar gyfer ymarfer corff i gŵn.
(e) Cae Chwarae Owain Glyndŵr, Bae Cinmel; ac eithrio’r ardal (llinell derfyn) a ddynodwyd ar gyfer ymarfer corff i gŵn
(f) Cae Hamdden Parc Clwyd, Bae Cinmel, ac eithrio’r ardal â ffens a ddynodwyd ar gyfer cŵn
(h) Cae Hamdden Pentywyn Road, Deganwy
(i) Oval, Llandudno; ac eithrio’r ardal (llinell derfyn) a ddynodwyd ar gyfer ymarfer corff i gŵn
(j) Maes Hamdden Maesdu Road, Llandudno; ac eithrio’r ardal (llinell derfyn) a ddynodwyd ar gyfer ymarfer corff i gŵn
(k) Cae Hamdden Rowen, Rowen
(l) Llwybr Glanrafon o’r Bont i Faes Parcio Plas y Dre, Llanrwst
(m) Llwybrau Troed yn croesi ac amgylchynu Clwb Golff, Betws-y-Coed
(n) Pwll Padlo Cymunedol Llandudno/Craig y Don
(o) Tir Cymdeithas Gymunedol a Hamdden Llysfaen, Dolwen Road, Llysfaen
(p) Twyni Tywod, Bae Cinmel
(q) Maes Hamdden Llanfairfechan a Thir o amgylch y Llyn Cychod i ffin orllewinol yr eiddo o'r enw Gorsefield, Llanfairfechan
(r) Ystâd Gwrych, Abergele
(s) Ardal o Barc Bodlondeb yn cynnwys cae pêl-droed, cae criced, cyrtiau tenis a’r ardal chwarae plant, Conwy
(t) Y tir hamdden sy’n amgylchynu’r cae pêl-droed, y lawnt fowlio a’r ardal gemau amlddefnydd, Llansannan
(u) Llwybrau troed cyhoeddus yn croesi Clwb Golff Golgedd Cymru, Llandudno
(v) Gerddi'r Frenhines, Bae Colwyn
Pob traeth yn dymhorol rhwng 1 Mai a 30 Medi gan gynnwys glan y môr a blaen draeth yn unol ag (w) isod ac fel y’u dangosir mewn biws ar Gynllun 4.
(w) Bae Kinmel - yr ardal o'r traeth rhwng y marc llanw isel a'r promenâd rhwng y mynediad i'r traeth o faes parcio St Asaph Avenue, Bae Cinmel a'r mynediad cyntaf i'r traeth o'r promenâd ger Woodside Avenue, Bae Cinmel
(3) Eithriadau – Does dim yn yr Atodlen hon yn berthnasol i unigolyn:-
(i) sydd wedi cofrestru’n swyddogol fel unigolyn dall; neu
(ii) sydd ag anabledd sydd yn effeithio ar ei symudedd, ei law deheurwydd, ei gydsymud corfforol neu eu gallu i godi, i gario neu i symud gwrthrychau bob dydd mewn modd arall, mewn perthynas â chi a hyfforddwyd gan elusen ragnodedig ac y mae’r unigolyn hwnnw yn dibynnu arno am gymorth; neu
(iii) yn defnyddio ci gwaith at ddibenion gorfodi’r gyfraith, dyletswyddau milwrol, gwasanaethau brys statudol (chwilio ac achub) neu i gyfeirio anifeiliaid, tra bod y ci’n gweithio.
(4) At ddiben yr Atodlen hon, mae'r canlynol yn "elusennau a ragnodwyd":-
(i) Dogs for the Disabled (elusen gofrestredig rhif 700454);
(ii) Support Dogs (elusen gofrestredig rhif 1088281); a
(iii) Canine Partners for Independence (elusen gofrestredig rhif 803680).
ATODLEN 6 - CŴN AR DENNYN TRWY GYFARWYDDYD

Mapiau