Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Trwydded Cyflogi Plant


Summary (optional)
start content

Mae Cyflogaeth Plant yng Nghymru yn cael ei gynnwys yn Rhan II Deddf Plant a Phobl Ifanc 1963

Oriau o waith a ganiateir: Os ydych chi’n gweithio, mae’r rheolau canlynol yn berthnasol nes i chi gyrraedd oedran gadael yr ysgol. Dylid anfon ffurflen gais sydd wedi’i llenwi a’i llofnodi gan eich rhieni a’ch cyflogwr i’r cyfeiriad isod cyn i chi ddechrau gweithio.

Pan fyddwch chi’n:        Mae modd gweithio:    Yn ystod yr oriau canlynol 
13 a 14    Diwrnodau ysgol Dim mwy na chyfanswm o 2 awr mewn un diwrnod yn ystod y cyfnodau canlynol:
  • Yn y bore rhwng 7am ac amser dechrau’r ysgol (uchafswm o 1 awr)
  • Min nos rhwng amser gorffen yr ysgol a 7pm
Dydd Sadwrn * 5 awr y dydd rhwng 7am a 7pm 
Dydd Sul 2 awr y dydd rhwng 7am a 7pm 
Gwyliau ysgol * 5 awr y dydd ar unrhyw ddiwrnod o’r wythnos (heblaw dydd Sul) rhwng 7am a 7pm, ond ni ddylai cyfanswm yr oriau a weithir mewn wythnos fod dros 25 awr.

Mae’n rhaid i chi gael gwyliau o 2 wythnos yn olynol mewn blwyddyn ac mae’n rhaid iddynt fod yn ystod gwyliau ysgol.
15    Diwrnodau ysgol Dim mwy na chyfanswm o 2 awr mewn un diwrnod yn ystod y cyfnodau canlynol:
  • Yn y bore rhwng 7am ac amser dechrau’r ysgol (uchafswm o 1 awr)
  • Min nos rhwng amser gorffen yr ysgol a 7pm
Dydd Sadwrn * 8 awr y dydd rhwng 7am a 7pm
Dydd Sul 2 awr y dydd rhwng 7am a 7pm
Gwyliau ysgol * 8 awr y dydd ar unrhyw ddiwrnod o’r wythnos (heblaw dydd Sul) rhwng 7am a 7pm, ond ni ddylai cyfanswm yr oriau a weithir mewn wythnos fod dros 35 awr.

Mae’n rhaid i chi gael gwyliau o 2 wythnos yn olynol mewn blwyddyn ac mae’n rhaid iddynt fod yn ystod gwyliau ysgol. 
16 Mae’r oriau cyflogaeth a nodwyd ar gyfer rhai sy’n 15 oed yn berthnasol tra byddwch o oedran ysgol gorfodol.  Os ydych yn dymuno, mae’n gyfreithlon i chi adael yr ysgol ar y dydd Gwener olaf ym mis Mehefin yn ystod y flwyddyn ysgol pan fyddwch yn cael eich pen-blwydd yn 16 oed.

Nid oes modd i chi gael cyflogaeth llawn amser tan ar ôl y dyddiad hwnnw.


* Ni chaiff unrhyw blentyn o unrhyw oed weithio mwy na 4 awr mewn unrhyw ddiwrnod heb gael gorffwys o un awr

 

Gwaith a ganiateir

Pan fyddwch chi’n:Gallwch chi wneud y math hwn o waith: 
13 

Dim ond mewn ‘gwaith ysgafn’ y mae modd eich cyflogi mewn un neu fwy o’r canlynol:

  • Gwaith amaethyddol neu arddwriaethol
  • Dosbarthu papurau newydd a deunydd printiedig arall
  • Gwaith siop, gan gynnwys llenwi silffoedd
  • Salon trin gwallt
  • Gwaith swyddfa
  • Golchi ceir â llaw mewn lleoliad preswyl
  • Mewn caffi neu fwyty
  • Mewn stablau marchogaeth
  • Gwaith domestig mewn gwestai a sefydliadau eraill yn cynnig llety 
14 a 15 Dim ond mewn gwaith ysgafn y gellir eich cyflogi.  

Mae modd i chi ymwneud â masnachu ar y stryd os ydych chi wedi’ch cyflogi gan eich rhiant mewn cysylltiad â’u busnes, ac os byddwch yn cael eich goruchwylio, neu eich bod wedi cael trwydded masnachu ar y stryd gan yr awdurdod lleol.
16 Bydd y cyfyngiadau uchod yn parhau i fod yn berthnasol tra byddwch o oedran ysgol gorfodol (gweler trosodd).



Cyflogaeth sy’n cael ei wahardd ar gyfer pob plentyn o oedran ysgol gorfodol

Ni chaiff unrhyw blentyn o unrhyw oed gael ei gyflogi:

  • mewn sinema, theatr, discotec, neuadd ddawnsio neu glwb nos, heblaw mewn cysylltiad â pherfformiad a roddwyd yn gyfan gwbl gan blant.  
  • i werthu neu ddosbarthu alcohol, heblaw mewn cynwysyddion wedi eu selio
  • i werthu sigarennau neu feddyginiaeth
  • i ddosbarthu llefrith
  • i ddosbarthu olew tanwydd
  • mewn cegin fasnachol
  • i gasglu neu ddidoli sbwriel
  • mewn unrhyw waith sydd dros dri metr uwchlaw lefel y ddaear neu, yn achos gwaith dan do, dros dri metr uwchlaw lefel y llawr
  • mewn gwaith sy’n cynnwys cysylltiad niweidiol i gyfryngau cemegol, biolegol neu ffisegol
  • casglu arian neu werthu neu ganfasio o ddrws i ddrws heblaw o dan oruchwyliaeth oedolyn
  • mewn gwaith sy’n cynnwys deunydd oedolion, neu mewn sefyllfaoedd sydd am y rheswm hwn fel arall yn anaddas i blant
  • mewn gwerthu dros y ffôn
  • mewn unrhyw ladd-dy neu yn y rhan honno o unrhyw siop cigydd neu eiddo arall sy’n gysylltiedig â lladd da byw, bwtsiera neu baratoi carcas neu gig i’w werthu

Trwydded Cyflogaeth Ffurflen Gais

end content