Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Addysg, Plant a Phobl Ifanc Child Employment and Licences Hebryngwyr Plant Sy'n Gweithio Ym Myd Adloniant

Hebryngwyr Plant Sy'n Gweithio Ym Myd Adloniant


Summary (optional)
start content

Mae hebryngwyr yn bobl sy’n meddu ar drwydded gan awdurdod lleol i edrych ar ôl plant sy’n gweithio yn y byd adloniant. Maen nhw’n gwneud yn siŵr nad ydi’r plentyn yn gweithio gormod o oriau heb seibiant priodol, bod addysg yn cael ei darparu mewn amgylchiadau penodol, a bod diogelwch, cyfforddusrwydd a lles y plentyn yn cael ei ystyried.

Pryd fydd angen hebryngwr?

Mae’n rhaid i hebryngwr cofrestredig fod gyda phlant oed ysgol, hyd at ac yn cynnwys Blwyddyn 11, sy’n cymryd rhan mewn ymarferion neu berfformiadau cyhoeddus os nad oes modd i riant neu ofalwr y plentyn fod yn bresennol.

Gall y perfformiadau hyn gynnwys unrhyw berfformiad teledu, theatr, ffilm neu amatur yn ogystal â gweithgareddau chwaraeon neu fodelu.

Mae’n rhaid i blant sy’n rhan o unrhyw berfformiad, boed yn bantomeim mewn neuadd bentref neu’n berfformiad sy’n cael ei ddarlledu, gael cwmni hebryngwr cofrestredig drwy gydol yr amser. Hefyd, os ydi’r perfformiad yn para’n hirach na thridiau, mae’n rhaid i’r plentyn gael trwydded perfformio.

I gofrestru fel hebryngwr bydd arnoch chi angen gwneud cais ar-lein i awdurdod lleol eich cartref (nid yr awdurdod lleol lle cynhelir y perfformiad). Bydd arnoch chi angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (www.gov.uk) a bydd arnoch chi angen cwblhau hyfforddiant diogelu plant. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn argymell Protecting children in entertainment training for chaperones | NSPCC Learning.

Beth sydd angen i mi ei wneud nesaf?

Defnyddiwch y ddolen isod i wneud cais ar-lein.

 
Deddfwriaeth

Am gyngor pellach cysylltwch â:

Rheolwr Gwasanaeth Cymdeithasol Addysg
Gwasanaethau Addysg
Blwch Post 1
Conwy
LL30 9GN

E-bost: ESWS@conwy.gov.uk 
Rhif ffôn: 01492 575031  
end content