Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Addysg, Plant a Phobl Ifanc Dogfennau Ymgynghoriad Addysg Cynnig i uno Ysgol Glan Gele ac Ysgol Sant Elfod.

Cynnig i uno Ysgol Glan Gele ac Ysgol Sant Elfod.


Summary (optional)
start content

Yn y cyfarfod ar 18 Chwefror 2025, cymeradwyodd Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy fod y cynnig i uno Ysgol Glan Gele ac Ysgol Sant Elfod yn mynd yn ei flaen i’r cam Hysbysiad Statudol.

Mae crynodeb o’r Hysbysiad Statudol ar gael isod ac mae’r hysbysiad llawn ynghlwm.

P’un a oes gwrthwynebiadau’n dod i law o fewn y cyfnod statudol ai peidio, bydd y cynnig yn cael ei ystyried gan yr Awdurdod ar ddiwedd y cyfnod gwrthwynebu o 28 diwrnod.

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Coed Pella, Bae Colwyn, LL29 7AZ - Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013

HYSBYSIR DRWY HYN yn unol ag Adran 41 a 43 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a Chod Trefniadaeth Ysgolion 2018 bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, wedi ymgynghori â’r cyfryw bersonau sy’n ofynnol, yn cynnig yr isod:

1. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cynnig sefydlu ysgol gymysg cyfrwng Saesneg newydd ar gyfer plant o 3 – 11, i’w chynnal gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar safleoedd Ysgol Glan Gele ac Ysgol Sant Elfod.

O ganlyniad i’r cynigion a amlinellir uchod:

2. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cynnig cau YSGOL GLAN GELE, FFORDD Y MORFA, ABERGELE, LL22 7NU. Mae’r ysgol ar hyn o bryd yn cael ei chynnal gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Cynigir gweithredu’r cynnig ar 31 Awst 2026.

3. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cynnig cau YSGOL SANT ELFOD, FFORDD Y MORFA, ABERGELE, LL22 7NU. Mae’r ysgol ar hyn o bryd yn cael ei chynnal gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Cynigir gweithredu’r cynnig ar 31 Awst 2026.

Dyddiad: 28/04/2025

Hanes yr ymgynghoriad

content

 

end content