Manylion y cwrs:
Dyddiad | Amser | Lleoliad | Darparwr | Grŵp Targed |
4 Gorffennaf 2019 |
6pm - 8pm |
Ysgol Dyffryn Conwy, Ffordd Nebo, Llanrwst LL26 0SD |
Rhys Howard Hughes a Catrin Fflur Roberts (GwE) |
Pob llywodraethwr |
Nod ac Amcanion:
Sesiwn i godi ymwybyddiaeth llywodraethwyr ar y safonau dysgu proffesiynol newydd. Bwriad y safonau proffesiynol yw:
- nodi disgwyliadau clir o ran arferion effeithiol yn ystod gyrfa ymarferydd gan gynnwys, lle bo hynny’n berthnasol, y cyfnod y bydd yn ymuno â’r proffesiwn
- galluogi ymarferwyr i fyfyrio ar eu harferion, fel unigolion ac ar y cyd ag eraill, yn erbyn safonau sy’n nodi arferion effeithiol y cytunwyd arnynt yn genedlaethol a chadarnhau a dathlu eu llwyddiannau
- cefnogi ymarferwyr i nodi meysydd ar gyfer datblygiad proffesiynol pellach
- rhoi cefndir i'r broses rheoli perfformiad.
Cyfle i hefyd rannu gwybodaeth am y Rhaglenni Dysgu Proffesiynol Arweinyddiaeth y mae GwE yn gynnig ar gyfer ymarferwyr ar draws y rhanbarth. Mae'r holl raglenni yn adlewyrchu'r Llwybr Datblygu Gyrfa Genedlaethol ac yn mynd i'r afael â datblygiadau a blaenoriaethau lleol a chenedlaethol.