Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Arolwg Prydau Ysgol 2026


Summary (optional)
start content

Rydyn ni eisiau clywed eich barn ar brydau ysgol yng Nghonwy.

P'un a ydych chi'n ddisgybl, rhiant/gofalwr, aelod o staff ysgol neu'n llywodraethwr, neu barti arall sydd â diddordeb, bydd eich adborth yn ein helpu i ddeall yn well beth sy'n gweithio'n dda a lle gellir gwneud gwelliannau. Bydd yr arolwg yn casglu barn ar ddarpariaeth prydau ysgol, dewisiadau bwydlen, profiadau bwyta a gwasanaethau arlwyo ehangach ar draws ysgolion Conwy.

Mae'r arolwg yn agor ar 12 Hydref 2026 a bydd yn aros ar agor tan 22 Rhagfyr 2026.

Rydym yn annog pawb sydd â diddordeb mewn prydau ysgol i gymryd rhan a rhannu eu barn. Bydd eich adborth yn helpu i lywio datblygiad a darparu gwasanaethau prydau ysgol ledled y sir yn y dyfodol.

Mae'r arolwg ar agor rhwng 12 Hydref a 22 Rhagfyr 2026. Cymerwch ychydig funudau i ddweud eich dweud.


Diolch am ein helpu i wella prydau ysgol i blant a phobl ifanc ledled Conwy.

end content