Bydd Ffoaduriaid o Wcráin yn cael mynediad at Fudd-daliadau’r DU ac ar yr amod eu bod yn hawlio, mae ganddynt hawl i’r Budd-daliadau perthnasol (a restrir isod) ac efallai y byddant yn gymwys ar gyfer Prydau Ysgol am Ddim / Grant Amddifadedd Disgybl:
- Cymhorthdal Incwm*
- Lwfans Ceisio Gwaith Cysylltiedig ag Incwm*
- Credyd Treth Plant, ar yr amod nad ydynt yn gymwys i dderbyn Credyd Treth Gwaith ac nad yw incwm blynyddol eu haelwyd, yn unol ag asesiad Cyllid a Thollau, yn fwy nag £16,190.
- Cefnogaeth o dan Ran VI o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999.
- Elfen Warantedig Credyd Pensiwn y Wladwriaeth
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm*
- Credyd Treth Gwaith parhaus – y taliad y gall rhywun ei gael am bedair wythnos arall ar ôl iddynt beidio â bod yn gymwys i gael Credyd Treth Gwaith
- Credyd Cynhwysol â chyfyngiad enillion net o £7,400 (Ebrill 2019).
Cefnogaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau ar gyfer pobl o Wcráin sy’n cyrraedd y DU (PDF, 1421KB) [ENGLISH VERSION]
Cefnogaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau ar gyfer pobl o Wcráin sy’n cyrraedd y DU (PDF, 1451KB) [FERSIWN WCREINEG]
Gallwch wneud cais drwy: www.conwy.gov.uk/cy/Preswylydd/Budd-daliadau-a-grantiau/Addysg- Budd-daliadau/Buddiannau-Addysg.aspx
Gall Ffoaduriaid o Wcráin dderbyn cymorth gan eu Noddwyr / Aelod o'r Teulu i wneud cais am Gredyd Cynhwysol neu ofyn am gymorth gan Wasanaeth Cymorth i Hawlio, Cyngor ar Bopeth Conwy. Y ddolen i fanylion cyswllt Cyngor ar Bopeth Conwy yw:
https://www.citizensadvice.org.uk/wales/about-us/contact-us/contact-us/search-for-your-local-citizens-advice/local-citizens-advice-details/?serialnumber=102062