Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Gwneud Cais am Addasiad


Summary (optional)
start content

Gallwch wneud cais am addasiad tai trwy ‘Un Pwynt Mynediad’ mewn amrywiaeth o ffyrdd: 

(1)  Defnyddiwch ein ffurflen ymholiad ar-lein

(2)  Drwy ffonio 0300 456 1111 (Llun – Iau 9.00am – 4.45pm a dyddiau Gwener 9.00am – 4.15pm) 

I’n helpu i ymdrin â’ch ymholiad yn effeithlon, rydym angen gwybod y canlynol:

  • Eich enw a’ch cyfeiriad
  • Os ydych chi’n denant preifat, byddwch angen caniatâd eich landlord ar gyfer unrhyw waith addasu. Heb ganiatâd y landlord ni allwn brosesu eich cais.
  • Rhowch gymaint o wybodaeth â phosibl i ni i’n helpu i ddelio â’ch cais.

     

Ar ôl i chi gael eich atgyfeirio at Therapydd Galwedigaethol:

  • Byddwn yn cynnig apwyntiad ar amser sydd yn gyfleus i chi, er mwyn cynnal asesiad Therapydd Galwedigaethol/Asesydd Cymwys ac asesiad Technegol o’r eiddo (os oes angen).
  • Cewch wybod beth fydd canlyniad yr asesiadau uchod.
  • Os fyddwch chi’n llwyddiannus, cewch wybod beth yw’r prif gamau i wneud yr addasiad, gan gynnwys amserlenni disgwyliedig.
  • Os mai peidio ag addasu eich cartref yw’r penderfyniad a’r dewis gorau i fodloni eich anghenion tymor hir, cewch wybod yn ysgrifenedig a’ch gwahodd i drafod eich opsiynau gyda’r adran/timau perthnasol.

 

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content