Addasiad yw’r enw a roddir ar newid a wneir neu gyfarpar a osodir i’w gwneud yn haws ac yn fwy diogel i chi aros yn eich cartref eich hun.
Mae addasiadau’n amrywio yn ôl anghenion y person, o ganllaw cydio syml neu gymorth i fynd i mewn ac allan o’r bath, i ychwanegu mwy o le at eich cartref. Mewn nifer o achosion, gall y Cyngor helpu deiliaid tai cymwys gyda chost addasiad.
Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl
Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod cyfyngiad ar y Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl gorfodol, sef £36,000. Dyma’r swm mwyaf a ellir ei ddyfarnu, ond bydd pob cais yn cael ei asesu yn ôl eu teilyngdod. Gellir hefyd ei ostwng dan amgylchiadau lle mae disgwyl i’r ymgeisydd gyfrannu tuag at gost y gwaith.
Gall y canlynol wneud cais am Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl:
- Berchennog tŷ
- Tenant yn rhentu gan landlord preifat
- Preswylydd cartref parc
- Yn byw ar gwch preswyl
Os ydych chi’n denant Cymdeithas Dai, cysylltwch â’ch landlord am ragor o wybodaeth.
Gellir dyfarnu’r Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl ar gyfer amrywiaeth o waith addasu, yn cynnwys:
- lifftiau grisiau, rampiau a chanllawiau llaw
- Addasu ystafelloedd ymolchi a chegin
- Gwelliannau system wresogi
Weithiau mae angen gwaith addasu, ond nid yw'n dod o dan ddeddfwriaeth. Mae gennym gymorth cyfleusterau i bobl anabl dewisol ar gyfer hyn a all gynnwys:
- Addasiadau i ddarparu cyfleusterau triniaeth angenrheidiol
- Addasiadau i alluogi person ag anableddau i weithio o’r cartref
- Man storio cadair olwyn
I ddysgu mwy neu i wneud cais, cysylltwch ag Un Pwynt Mynediad.
Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych
Manau parcio i bobl anabl
Os ydych yn anabl a bod eich cartref wedi'i addasu, efallai byddwch yn deilwng i gael gostyngiad ar eich treth y cyngor. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag adran Treth y Cyngor.
Dychwelyd i'r brif ddewislen