Cyngor a chymorth i arbed ynni yn eich cartref.
Cymorth a chyngor:
Cynllun Inswleiddio Prydain Fawr a chynlluniau ECO4 (Rhwymedigaeth Cwmni Ynni):
content
Mae
cynllun ECO4 yn canolbwyntio ar gefnogi aelwydydd ag incwm isel ac aelwydydd diamddiffyn.
Mae
Cynllun Insiwleiddio Prydain Fawr yn cefnogi’r cynllun ECO4 i weithredu'r mesurau sengl yn bennaf, sydd wedi'u targedu at ystod ehangach o aelwydydd.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cyhoeddi Datganiad o Fwriad sy’n caniatáu darpariaeth y cynllun hwn. Mae hyn yn amlinellu’r meini prawf cymhwyso i aelwydydd:
content
Mae cysylltiad Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy â’r cynllun yn un gweinyddol yn unig, ac yn golygu asesu eich tystiolaeth a’ch cais i gadarnhau eich cymhwysedd (nid yw hyn yn gwarantu dyrannu cyllid). Dylai ceisiadau gael eu cyflwyno gan eich gosodwr a ddewiswyd ar eich rhan.
Nid ydym yn cefnogi unrhyw osodwr a byddwn yn derbyn ceisiadau gan unrhyw un sy’n weithredol o fewn y cynllun. Rydym yn argymell eich bod yn cynnal eich diwydrwydd dyladwy eich hun, h.y. gwirio adolygiadau, gwaith blaenorol neu wefan Trust Mark.
content
Wrth gyflwyno unrhyw gais/geisiadau mae’n rhaid i chi hefyd anfon yr holl wybodaeth a thystiolaeth ategol angenrheidiol wedi’i labelu’n glir er mwyn galluogi prosesu di-drafferth. Bydd unrhyw geisiadau a gyflwynir sy’n cael eu hystyried yn anghyflawn neu sydd wedi’u gwneud ar hen ffurflenni yn cael eu dychwelyd, ac ni fydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cymryd unrhyw gamau pellach hyd nes y bydd yr holl ddogfennaeth gywir wedi’i darparu.
Mae rhestr wirio tystiolaeth Cynllun Inswleiddo Pryfain Fawr ac ECO4 yn rhoi manylion y dogfennau y mae angen eu cyflwyno gyda phob cais a wneir. Mae’n rhaid i bob cais a wneir gynnwys copi wedi’i lenwi o’r rhestr wirio tystiolaeth yn rhoi manylion y dogfennau sydd ynghlwm wrth y cais. Bydd unrhyw gais a gyflwynir heb y rhestr wirio tystiolaeth yn cael ei ystyried yn anghyflawn.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cyflwyno ceisiadau, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at
ecoflex@conwy.gov.uk.
Gwybodaeth ac arweiniad ar geisiadau a'n prosesau:
Nesaf: Addasiadau tai i bobl anabl