Strategaeth Dai a Digartrefedd Ddrafft 2026-31 - Ymgynghoriad
Mae ein strategaeth newydd wedi’i chynllunio i integreiddio 5 prif faes gwaith er mwyn adeiladu ar ein llwyddiant dros y cyfnod strategol diwethaf a chyflawni ein dyletswyddau statudol presennol a newydd:
- Sicrhau cymaint o dai fforddiadwy â phosibl
- Dod â thai gwag yn ôl i ddefnydd
- Darparu cymorth tai amserol ac wedi’i dargedu
- Cynyddu’r opsiynau fforddiadwy ac addas yn y sector preifat
- Darparu gwasanaeth Atal Digartrefedd effeithiol drwy weithredu dull Ailgartrefnu Cyflym (Rapid Rehousing)
Bydd gan bob maes gwaith blaenoriaeth gynllun cyflawni a fydd yn cael ei ddiweddaru bob blwyddyn i adlewyrchu anghenion sy’n dod i’r amlwg, newidiadau polisi, a’r gwersi rydym wedi’u dysgu.
Mae'r ymgynghoriad ar agor tan ddydd Mercher, 11 Mawrth 2026.
Dogfennau
Cysylltwch â'r Tîm Strategaeth Tai
Ffôn: 01492 574225
E-bost: strategaithtai@conwy.gov.uk
Nesaf: Prosbectws Tai Lleol Conwy