Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Polisïau, cynlluniau a strategaethau tai: Asesiad o Farchnad Dai Leol


Summary (optional)
start content

Diben yr Asesiad o'r Farchnad Dai Leol yw darparu tystiolaeth gadarn i hysbysu'r Strategaeth Dai Leol a darparu tai fforddiadwy yn y Cynllun Datblygu Lleol.

Mae’r Asesiad o’r Farchnad Dai Leol yn hysbysu’r blaenoriaethau tai strategol a gellir ei ddefnyddio fel adnodd i drafod darpariaethau tai fforddiadwy wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio a dyrannu’r Grant Tai Cymdeithasol i helpu i ddarparu tai fforddiadwy.

Mae'n rhaid i bob awdurdod lleol yng Nghymru gynnal Asesiad o’r Farchnad Dai Leol. Bob pum mlynedd, disgwylir i awdurdodau lleol ailysgrifennu eu hasesiad yn ogystal â’i adnewyddu unwaith yn ystod y cyfnod hwnnw (rhwng yr ail a’r drydedd flwyddyn).

Caiff yr asesiad ei baratoi yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.

Mae’r asesiad hwn (2022-2037) wedi nodi angen blynyddol am dai o 810 ar gyfer y pum mlynedd gyntaf (2022-2027). Mae hynny’n cynnwys:

  • 452 o unedau rhent cymdeithasol
  • 242 o unedau perchentyaeth cost isel a rhent canolradd
  • 116 o unedau ar y farchnad agored

Ar gyfer y deng mlynedd sy’n weddill (2028-2037) mae’r asesiad hwn wedi nodi angen blynyddol am dai o 183. Mae hynny’n cynnwys:

  • 47 o unedau rhent cymdeithasol
  • 20 o unedau perchentyaeth cost isel a rhent canolradd
  • 116 o unedau ar y farchnad agored

Dogfennau:

Nesaf: Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym

end content