Mae Cyngor Conwy’n anelu at weithio â pherchnogion eiddo i ddod â chartrefi gwag yn ôl i ddefnydd. Yn y mwyafrif o achosion, cyflawnir hyn trwy gyngor, canllawiau a chefnogaeth. Fodd bynnag, os nad yw perchnogion yn ymgysylltu, neu os yw’r eiddo’n achosi niwsans, dirywiad neu niwed i eiddo cyfagos neu’r ardal ehangach, mae’n bosibl y bydd y Cyngor yn cymryd camau gorfodi ffurfiol.
Mae gennym ystod o bwerau cyfreithiol i fynd i’r afael â’r materion hyn yn dibynnu ar yr amgylchiadau. Mae’n ddyletswydd arnom i weithredu mewn modd cymesur a phriodol. Gall gwahanol wasanaethau’r Cyngor arfer y pwerau yn dibynnu ar yr amgylchiadau.
Dewisiadau cyfreithiol ar gael
Gorchmynion Rheoli Anheddau Gwag (Deddf Tai 2004)
Mae Gorchymyn Rheoli Annedd Gwag yn galluogi’r Cyngor i gamu i mewn ac ymgymryd â’r dasg o reoli eiddo sydd wedi bod yn wag ers o leiaf dwy flynedd ac yn peri pryder.
Bwriedir i’r Gorchmynion hyn ddod ag eiddo’n ôl i ddefnydd lle nad yw’r perchnogion yn gallu neu’n barod i wneud hynny eu hunain. Cyn gwneud gorchymyn, mae’n rhaid i’r Cyngor ddangos bod camau rhesymol wedi cael eu cymryd i annog y perchennog i ail-feddiannu’r eiddo.
Os caiff Gorchymyn ei gymeradwyo gan Dribiwnlys Eiddo annibynnol, gall y Cyngor (neu asiant rheoli a benodwyd):
- gwblhau’r gwaith sy’n ofynnol i wneud yr eiddo’n addas ar gyfer ei feddiannu
- trefnu i denantiaid fyw yn yr eiddo
- casglu rhent ac adennill y costau sydd ynghlwm ag unrhyw waith a rheoli’r eiddo’n barhaus
Ni fydd perchnogaeth yr eiddo’n newid. Caiff unrhyw incwm rhent dros ben, ar ôl adennill costau, ei ddychwelyd i’r perchennog. Mae terfyn amser yn berthnasol ar gyfer y Gorchmynion hyn, ond gellir eu hymestyn lle bo angen.
Gwerthiant Gorfodol (Deddf Cyfraith Eiddo 1925)
Gall y Cyngor adennill ei ddyledion yn erbyn eiddo drwy orfodi ei werthiant.
Defnyddir y pŵer hwn fel arfer pan fydd y Cyngor wedi cwblhau gwaith i ddiogelu neu adfer eiddo, neu lle nad yw dyledion megis treth y cyngor neu ffioedd eraill yn cael eu talu. Gellir cofrestru’r costau hyn fel pridiant cyfreithiol yn erbyn yr eiddo a gofnodir gan Gofrestrfa Tir EF.
Unwaith y bydd pridiant yn berthnasol, gall y Cyngor werthu’r eiddo a defnyddio’r arian i dalu dyled, neu gostau, gyda llog. Caiff unrhyw arian sy’n weddill ei ddychwelyd i’r perchennog.
Ystyrir gwerthiant gorfodol gan amlaf lle na lwyddwyd i adennill dyled neu weithio â’r perchennog.
Gorchmynion Prynu Gorfodol (Deddf Tai 1985 / Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990)
Mae Gorchymyn Prynu Gorfodol yn galluogi’r Cyngor i gaffael eiddo heb ganiatâd y perchennog i ddod â’r eiddo yn ôl i ddefnydd.
Dyma’r ateb olaf gan amlaf pan fydd eiddo wedi bod yn wag ers amser hir, mewn cyflwr gwael, neu lle nad oes gobaith ymarferol o’r perchennog yn gweithredu.
I gael Gorchymyn Prynu Gorfodol, mae’n rhaid i’r Cyngor ddangos:
- bod ymdrechion rhesymol wedi’u gwneud i annog y perchennog i ddod â’r eiddo’n ôl i ddefnydd
- bod buddion amlwg i’r cyhoedd, er enghraifft, darpariaeth tai neu wella’r ardal leol
- bod y cam hwn yn gyfiawn ac yn gymesur
Os caiff ei gymeradwyo, bydd perchnogaeth yr eiddo’n trosglwyddo i’r Cyngor. Amlinellir iawndal ar gyfer y perchennog dan y gyfraith. Bydd yr eiddo’n cael ei ail-ddefnyddio at ddibenion preswyl, naill ai’n uniongyrchol gan y Cyngor neu trwy werthiant/trosglwyddiad dilynol.
Mae sawl Deddf Seneddol yn darparu pwerau i Awdurdodau Lleol fynd i’r afael â chyflwr ac ymddangosiad gwael mewn eiddo
- Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (Adran 215) - i’w defnyddio pan fydd cyflwr tir neu adeiladau’n cael effaith niweidiol ar ymddangosiad ardal
- Deddf Adeiladu 1984 (Adrannau 76-79) - i’w defnyddio i fynd i’r afael ag adeiladau a safleoedd diffygiol, adfeiliedig neu wedi’u hesgeuluso
- Deddf Adeiladu 1984 (Adran 77) - i’w defnyddio pan ystyrir bod adeiladau neu strwythurau’n beryglus.
- Niwsans statudol (Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990) - Mae hyn yn galluogi’r Cyngor i weithredu pan fydd eiddo’n achosi niwsans, megis cronni gwastraff, lleithder, arogleuon neu amodau niweidiol eraill sy’n cael effaith ar eiddo cyfagos.
- Safonau tai (Deddf Tai 2004) - Mae’r gyfraith yn amlinellu safonau Iechyd a Diogelwch ar gyfer eiddo preswyl. Gall y Cyngor ei gwneud yn ofynnol i berchnogion gwblhau gwaith i fodloni’r safonau.
- Rheoli plâu (Deddf Atal Difrod gan Blâu 1949) - Darparu pwerau sy’n ei gwneud yn ofynnol i berchnogion neu breswylwyr ymdrin â phlâu o lygod a llygod mawr ac atal problemau pellach
- Diogelu eiddo gwag (Deddf Llywodraeth Leol Darpariaethau Amrywiol) 1982) - Pan nad yw eiddo’n ddiogel ac mae perygl o fandaliaeth, sgwatio neu dân, gall y Cyngor ei gwneud yn ofynnol i’r perchennog ei ddiogelu, neu gwblhau gwaith ac adennill y costau.
Pwerau Ychwanegol
Dan Ddeddf Tai 2004, mae’n bosibl y bydd y Cyngor hefyd yn:
- ymweld ag eiddo a’u harchwilio (gyda rhybudd priodol)
- ceisio gwybodaeth am berchnogaeth neu ddeiliadaeth
- cyflwyno rhybuddion gwella neu ymwybyddiaeth o berygl
- cwblhau gwaith brys ac adennill costau
- cyfyngu’r defnydd o eiddo anniogel
Ein Dull
Byddwn bob amser yn anelu at weithio gyda pherchnogion eiddo yn gyntaf a darparu cyfleoedd iddynt fynd i’r afael â materion yn wirfoddol. Dim ond pan fydd hynny’n aflwyddiannus y byddwn yn ystyried camau pellach yn ddibynnol ar:
- gyflwr yr eiddo a’i effaith ar yr ardal leol
- lefel y risg neu niwsans a achosir
- parodrwydd y perchennog i weithio gyda’r Cyngor
- p’un a yw’r camau a gynigir yn rhesymol ac yn gymesur
- yr adnoddau sydd eu hangen i symud ymlaen â’r achos
I roi gwybod am eiddo sy’n achosi niwsans, llenwch ein ffurflen ar-lein.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r opsiynau Gorfodi, gweler tudalen 46 Llawlyfr Llywodraeth Cymru ar Eiddo Gwag yng Nghymru (www.gov.wales)
Dychwelyd i'r brif ddewislen