Rhentu ystafell yn eich cartref
Mae gan Lywodraeth y DU wybodaeth am rentu ystafell yn eich cartref.
- Rydych chi'n landlord preswyl os ydych chi'n rhentu rhan o eiddo sy'n unig gartref neu'n brif gartref i chi.
- Efallai y byddwch chi'n gallu ennill £7,500 y flwyddyn yn ddi-dreth o dan y Cynllun Rhentu Ystafell.
Cynllun Prydlesu Cymru
Oherwydd galw mawr, mae Cynllun Lesio Cymru ar gau i geisiadau newydd ar hyn o bryd. Darllenwch y manylion am ein Gwasanaeth Prydlesu Sector Preifat fel dewis amgen.
Mae Cynllun Prydlesu Cymru yn gynllun prydlesu wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i reoli gan awdurdodau lleol. Mae’r cynllun yn rhoi cyfle i landlordiaid brydlesu eu heiddo i’r awdurdod lleol am incwm rhentu misol sicr a gwasanaeth rheoli eiddo cyflawn am rhwng 5 ac 20 mlynedd.
Mantesion:
- Prydlesau sy’n para rhwng 5 ac 20 mlynedd.
- Sicrwydd rhent bob mis am gyfnod y brydles.
- Lle bo angen, cynnig grant hyd at £5000 i sicrhau bod yr eiddo yn cyrraedd y safonau diogelwch gofynnol ac/neu i godi cyfradd EPC yr eiddo i lefel C.Mae cyllid grant ychwanegol o hyd at £25,000 ar gael ar gyfer eiddo gwag hirdymor.
- Cynnal archwiliadau eiddo, gwaith atgyweirio a gwaith cynnal a chadw trwy gydol cyfnod y brydles.
- Dychwelyd yr eiddo yn yr un cyflwr ag y cafodd ei osod, yn amodol ar draul rhesymol, ac atebolrwydd y landlord am ddiffygion strwythurol.
- Rheoli’r eiddo yn llwyr am gyfnod y brydles.
- Darparu cefnogaeth i’r tenant trwy gydol y denantiaeth.
- Byddwn ni'n talu taliadau rhent yn ystod unrhyw gyfnod pan mae'r eiddo'n wag.
- Byddwn ni'n gyfrifol am unrhyw filiau/cyfleustodau os nad yw’r eiddo’n cael ei feddiannu.
Gwnewch ymholiad ar-lein am Gynllun Prydlesu Cymru.
Rydym yn cynnig gwasanaeth prydlesu sector preifat didrafferth i landlordiaid yn sir Conwy.
- daliadau rhent wedi’u sicrhau am 12 mis o’r flwyddyn
- peidio colli rhent pan fydd eiddo'n wag
- dim ffioedd rheoli
- bydd unrhyw ddifrod gan y tenant yn cael ei drwsio heb unrhyw gost i’r landlord
- peidio gorfod ymwneud yn uniongyrchol â thenantiaid
- archwiliadau iechyd a diogelwch am ddim
- peidio gorfod bodloni rhwymedigaethau Rhentu Doeth Cymru
Anfonwch e-bost i ni at timpartneriaethtai@conwy.gov.uk.
Nesaf: Rhent, blaendal a bondiau