Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Tai Tenantiaid Pryderon ynghylch amodau tai

Gwybodaeth i denantiaid: pryderon ynghylch amodau tai


Summary (optional)
start content

Wrth rentu eiddo, mae gan y tenant a'r landlord rai cyfrifoldebau, a ddangosir fel arfer mewn cytundeb tenantiaeth.

Fel arfer, cyfrifoldeb y landlord yw cynnal a chadw strwythur a thu allan yr eiddo, gan gynnwys draeniau, cwteri, pibellau, llwybrau gardd, grisiau, gwifrau trydanol, sinciau, baddonau, toiledau, gwresogyddion sefydlog a gwresogyddion dŵr. Dylid rhestru atgyweiriadau mewnol yn amodau'r denantiaeth.

Os ydych chi'n teimlo bod cyflwr yr eiddo yn effeithio ar eich iechyd neu'n achosi niwsans i eraill, rydym yn eich cynghori i wirio'ch cytundeb tenantiaeth a siarad â'ch landlord. Peidiwch â dal eich rhent yn ôl, gallech gael rhybudd i adael, a allai effeithio ar gael cartref.

Os nad yw hyn yn llwyddiannus, gallwn asesu'r eiddo. Byddwn yn hysbysu'ch landlord ein bod yn bwriadu ymweld. Os byddwn yn cytuno bod gwaith i'w wneud gan eich landlord, byddwn yn ysgrifennu atynt yn gofyn iddynt fynd i'r afael â'r materion.

Efallai y byddwn yn rhoi rhybudd i'ch landlord, gan ei gwneud yn ofynnol iddynt wneud atgyweiriadau angenrheidiol. Byddai rhybudd yn cynnwys dyddiad cau ar gyfer gwaith ac os na chaiff ei fodloni gallwn gymryd camau pellach. Gellir erlyn landlordiaid am fethu â gwneud gwaith.

Mewn argyfwng, efallai y byddwn yn gwneud y gwaith. Os ydym yn ystyried bod yr eiddo yn rhy beryglus neu'n anniogel i fyw ynddo, gallem ddatgan ei fod yn anaddas i fyw ynddo. Os bydd hyn yn digwydd, byddwn yn eich cefnogi trwy ein gwasanaeth atal digartrefedd.

Os penderfynwch gymryd camau yn erbyn eich landlord oherwydd diffyg atgyweirio, byddwch yn ymwybodol o'r math o denantiaeth sydd gennych. Efallai y bydd eich landlord yn penderfynu rhoi rhybudd i chi.

Os ydych wedi cael rhybudd, cysylltwch â ni ar 0300 456 9545 i gael cyngor.

Nesaf: Problemau gyda landlord preifat

end content