Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Tai Tenantiaid Ydi fy landlord yn cydymffurfio?

Gwybodaeth i denantiaid: ydi fy landlord yn cydymffurfio?


Summary (optional)
start content

Mae’n rhaid i landlordiaid preifat wneud yn siŵr eu bod nhw’n cydymffurfio â’r gyfraith.

Rhentu Doeth Cymru

  • Mae’n rhaid i holl landlordiaid Cymru fod wedi cofrestru â Rhentu Doeth Cymru. Mae gwefan Rhentu Doeth Cymru yn galluogi unrhyw un i wirio os yw’r perchennog wedi cofrestru.
  • Mae’r unigolyn sy’n rheoli’r denantiaeth, un ai’r perchennog neu’r asiantaeth yn gorfod bod â thrwydded â Rhentu Doeth Cymru ac yn cydymffurfio â’r cod ymddygiad. Os oes gennych unrhyw bryderon am eich landlord neu asiantaeth anfonwch e-bost at llygredd.tai@conwy.gov.uk.

Tystysgrifau perfformiad ynni (EPC)

  • Mae’n ofynnol ar y rhan fwyaf o eiddo rhent preifat yng Nghymru i feddu ar dystysgrif EPC ac i gwrdd â safonau lleiafswm effeithiolrwydd ynni.
  • Mae’n rhaid i landlordiaid ddarparu copi o EPC dilys i denant neu ddarpar-denant.
  • Oni bai fod eiddo wedi’i eithrio mae’r landlord yn torri’r gyfraith os bydd yn creu tenantiaeth newydd ar gyfer eiddo sydd â gradd F neu G. Gall arwain at ddirwy i’r landlord.
  • Gallwch wirio os yw’r landlord wedi eithrio’r eiddo drwy chwilio ar y gofrestr gyhoeddus Rhentu Doeth Cymru.

Tai Amlfeddiannaeth (HMOs)

  • Mae pob eiddo gyda mwy na un aelwyd yn Dai Amlfeddiannaeth. Mae gan Gonwy fwy o Dai Amlfeddiannaeth nag unrhyw sir arall yng Nghymru. Mae’r gyfraith yn nodi y dylai rhai Tai Amlfeddiannaeth fod yn drwyddedig. Mae’r broses drwyddedu yn sicrhau fod yr eiddo a’r landlord yn cwrdd â’r safonau disgwyliedig.
  • Ym Mae Colwyn, Llandudno a Phensarn, mae'r Cyngor yn disgwyl i fathau ychwanegol o Dai Amlfeddiannaeth i gael eu trwyddedu.
  • Os ydych eisiau gwirio bod gan eich landlord y drwydded gywir anfonwch e-bost at llygredd.tai@conwy.gov.uk.
  • Mae cofrestr gyhoeddus o holl Dai Amlfeddiannaeth trwyddedig yng Nghonwy ar gael i'w harchwilio yn ein swyddfeydd yng Nghoed Pella, Bae Colwyn yn ystod yr oriau agor arferol, trwy apwyntiad yn unig gan gysylltu gyda TrwyddeduTaiAmlfeddiannaeth@conwy.gov.uk. Os nad allwch ymweld yn bersonol gellir darparu copi wedi'i argraffu neu'n electroneg am gost o £40 i dalu am gostau gweinyddu.

Diogelwch tân

Iechyd a diogelwch

  • Mae’n rhaid i landlordiaid wneud yn siŵr fod eu heiddo yn cwrdd â’r safonau iechyd a diogelwch. I wneud ymholiad anfonwch e-bost at llygredd.tai@conwy.gov.uk.

Nesaf: Gwasanaethau gwybodaeth a chyngor i denantiaid

end content