Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Hybiau Codi Sbwriel Lleol


Summary (optional)
Benthycwch offer am ddim a helpwch i ofalu am eich ardal leol
start content

Awydd glanhau eich ardal leol ond heb yr offer cywir?  Ewch i un o Hybiau Codi Sbwriel Cadwch Gymru’n Daclus a’i fenthyg yn rhad ac am ddim!

Mae eich hybiau lleol yn cynnig yr holl gyfarpar sydd ei angen arnoch i gynnal ymgyrch glanhau diogel.  Mae hyn yn cynnwys codwyr sbwriel, siacedi llachar, sachau sbwriel a chylchynnau (sydd yn hanfodol ar gyfer cadw eich sachau ar agor yn y gwynt!).  Mae’r hybiau wedi cael eu sefydlu ar draws Cymru fel rhan o Caru Cymru – mudiad cynhwysol i ddileu sbwriel a gwastraff.

Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda Cadwch Gymru’n Daclus a phob awdurdod lleol arall yng Nghymru i gefnogi Caru Cymru.  Y weledigaeth yw i Caru Cymru gael ei gydblethu i fywyd yng Nghymru, er mwyn iddo ddod naturiol i bawb wneud y peth iawn, o fynd â sbwriel gartref a glanhau ar ôl eich ci, i ailgylchu ‘wrth fynd’, ailddefnyddio ac atgyweirio. 

Dewch o hyd i’ch hyb codi sbwriel lleol yng Nghonwy trwy fynd i wefan Cadwch Gymru’n Daclus.

 

end content