Gallwn eich helpu gyda’r canlynol:
- Defnyddio Zoom i’ch helpu i ymuno â gweithgaredd neu grŵp ar-lein
- Sut i wneud fideoalwad er mwyn i chi gadw mewn cysylltiad gyda’ch teulu neu ffrindiau
- Sut i agor cyfrif a siopa bwyd ar-lein
- Sut i greu cyfrif e-bost syml
Rydym ni hefyd wedi llunio canllawiau cam wrth gam ar gyfer y pynciau yma, ynghyd â fideo sy’n dangos sut i gael gafael ar Zoom a'i ddefnyddio.
Canllawiau
Fideo
I gael rhagor o wybodaeth neu i archebu lle, ffoniwch 01492 577449 neu anfonwch e-bost at arosyniach@conwy.gov.uk