Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Y Fach


Summary (optional)
Llandudno
start content
  • Y Fach yw'r hynaf o barciau Conwy. Cafodd ei greu ar ddiwedd y 19eg Ganrif a chafodd ei restru fel gardd hanesyddol o ragoriaeth yn ystod y 1930au oherwydd ei gasgliad nodedig o blanhigion Alpaidd.
  • Lleoliad - Y Gogarth, Llandudno
  • Cyfleusterau - Cyfleusterau cyhoeddus, lle chwarae, caffi, seddi digonol, cwrs golff bach, siambr dywyll, gerddi teras a theithiau cerdded mewn coetir.

Ym 1997 rhoddwyd Grant Treftadaeth y Loteri i'r parc. Roedd adnewyddiadau yn cynnwys ailblannu helaeth, isadeiledd newydd a gwell a chreu swyddi garddio parhaol.                                                      

Mae'r parc yn helaeth ac yn cynnwys llawer o fannau gwahanol, gan gynnwys gerddi teras, teithiau cerdded mewn coetir, lawntiau ffurfiol ac ogof wedi'i chloddio a adnabyddir yn lleol fel Elephants Cave. Yn 2009 rhoddwyd Baner Werdd i'r Fach.  Mae hyn yn cadarnhau ein cred bod Y Fach yn barc sy'n deilwng o statws rhagoriaeth cenedlaethol.

.

end content