Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Parc Bodlondeb


Summary (optional)
Conwy
start content

Mae Bodlondeb wedi'i leoli ar ochr orllewinol Moryd Conwy ac ychydig y tu allan i furiau castell Tref Conwy. Mae golygfeydd trawiadol dros y foryd ac i fyny at goed Bodlondeb.

Lleoliad: Bangor Road, Conwy

Cyfleusterau

  • parcio
  • cyrtiau tennis
  • cae pêl-droed
  • offer chwarae
  • teithiau cerdded mewn coetir a pharcdir
  • llwybrau hygyrch
  • seddi

Mae'r tiroedd yn helaeth ac yn cynnwys parcdir traddodiadol, rhandiroedd muriog, cae criced a phafiliwn, yn ogystal â'r Warchodfa Natur Leol tua'r gogledd.     

Hanes Bodlondeb                                                 

Yn wreiddiol, cartref teuluol oedd Bodlondeb a adeiladwyd ym 1742 ar gyfer Mr Holland, aelod o deulu cyfoethog lleol. Yna, gwerthwyd y tŷ a'r tir i Mr Albert Wood a'i deulu ac roeddent ym mherchnogaeth teulu'r Wood tan 1937.  Yna, trosglwyddwyd Bodlondeb i berchnogaeth Cyngor Bwrdeistref Conwy a daeth yn swyddfeydd canolog i nifer o adrannau ar gyfer beth sydd erbyn hyn yn Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

end content