Grwpiau misol dan arweiniad staff y Llyfrgell:
Ffi aelodaeth blynyddol o £12 yn darparu:
- aelod o staff y llyfrgell i arwain y grŵp
- lleoliad y llyfrgell
- ystod eang o setiau grŵp darllen
Os yw'n well gennych arwain eich grŵp eich hun o fewn y llyfrgell a chael mynediad at ein cyfleusterau, bydd ffi lai o £6 fesul aelod o'r grŵp yn daladwy.
Gall teitlau Cymraeg gael eu darparu fel setiau Grŵp Darllen o stoc, gan gynnwys enillwyr gwobrau'r Eisteddfod Genedlaethol a Llyfr y Flwyddyn Cymru.
Gall aelodau’r llyfrgell fenthyg setiau Grŵp Darllen. Am fwy o wybodaeth cysylltwch (01492) 576139, e-bost llyfrgell@conwy.gov.uk.