start content

Llyfrgell Bae Colwyn, Woodland Road West, Bae Colwyn, LL29 7DH

Ffôn: 01492 577510
E-bost: llyfrgell.baecolwyn@conwy.gov.uk

content

content

content

 

Archwiliwch y llyfrgell

Mae mynd i rywle newydd yn haws pan fyddwch chi’n gwybod beth i’w ddisgwyl. Mae ein taith rithiol 360 gradd yn caniatáu i chi weld Llyfrgell Bae Colwyn cyn dod yma, er mwyn eich helpu i fod yn gyfarwydd â’r adeilad, y cyfleusterau a’r gwasanaethau ar eich cyflymder eich hun.

Gallwch grwydro o amgylch y llyfrgell yn rhithiol a dewis pwyntiau gwybodaeth er mwyn gwylio fideos byr sy’n egluro beth welwch chi yno a sut mae gwahanol rannau o’r llyfrgell yn gweithio.

Awgrymiadau ar sut i ganfod eich ffordd ar y daith rithiol:

  • Dewiswch y cylchoedd ar y llawr i symud drwy’r llyfrgell. Ar gyfrifiadur, gallwch hefyd ddefnyddio eich llygoden a’r saethau ar eich bysellfwrdd.
  • Mae eiconau camera’n nodi mannau lle mae gwybodaeth ychwanegol ar gael. Mae fideos ar gael yn Gymraeg (coch), Saesneg (glas) ac Iaith Arwyddion Prydain (melyn). Wrth ddal y llygoden uwchben eicon camera, fe ddaw ffenestr fach i’r golwg yn dangos y teitl a’r iaith i chi.

Mae’r ffilmiau byr yn dangos:

  • Cyrraedd yma ar y bws: Os ydych chi’n bwriadu defnyddio cludiant cyhoeddus i ymweld â’r llyfrgell, bydd fideo yn dangos y gorsafoedd agosaf i chi a pha rif bws i’w gymryd.
  • Prif fynedfa a chyntedd: Dyma ble byddwch yn cyrraedd yr adeilad.
  • Desg y llyfrgell: Dyma ble gallwch ddod o hyd i’n staff cyfeillgar os oes gennych chi unrhyw gwestiwn.
  • Y peiriant hunanwasanaeth: Gweld ble mae'r peiriant hunanwasanaeth a sut allwch chi fenthyg neu ddychwelyd pethau'n annibynnol.
  • Cyfrifiaduron ac ardaloedd eistedd: Gweld y cyfrifiaduron cyhoeddus, y mannau astudio a'r llefydd i eistedd sydd ar gael yn y llyfrgell.
  • Lifft: Gallwch ddarganfod sut i gael mynediad i'r llawr cyntaf gan ddefnyddio'r lifft.
  • Toiledau: Gallwch wybod yn union ble i ddod o hyd i'r cyfleusterau pwysig hyn cyn cyrraedd.

Datblygwyd yr adnodd hwn mewn partneriaeth â Cherddoriaeth a Ffilm Cymunedol TAPE, Oriel Colwyn, a phobl sydd â phrofiad o orbryder cymdeithasol, a chefnogaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Funded-by-UK-Gov-stacked_Duo_Welsh_BlackMae'r prosiect Creu Conwy hwn wedi'i ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

end content