Fel aelod o'r llyfrgell gallwch:
- Defnyddio ein cyfrifiaduron a chael mynediad at y rhyngrwyd am ddim
- Cael mynediad at ddewis eang o lyfrau ac adnoddau i helpu gyda gwaith cartref a phrosiectau, gan gynnwys adnoddau ar-lein a gwefannau defnyddiol.
- Cymryd rhan yn Sialens Ddarllen yr Haf yn ystod gwyliau’r haf
Sialens Ddarllen yr Haf
Mae Sialens Ddarllen Cenedlaethol yr Haf yn cael ei chynnal bob haf rhwng mis Gorffennaf a mis Medi ar gyfer plant 4-12 oed. Y sialens yw darllen chwe llyfr dros yr haf. Mae pob plentyn yn cael pecyn am ddim, ac ar ôl cwblhau'r her maent yn cael medal a thystysgrif.
Sialens Ddarllen yr Haf 2021: Arwyr y Byd Gwyllt (conwy.gov.uk)
Amser stori a rhigwm ar gyfer plant dan 5 oed
Dewch i'n sesiynau am ddim, llawn hwyl.
Cymraeg i Blant
Amser stori a rhigwm Cymraeg (yn ystod y tymor ysgol yn unig)
Cysylltwch ag: elin.jones@meithrin.cymru, www.meithrin.cymru/chwilio-am-gylch/
- Llyfrgell Conwy - Dydd Iau 10.45am
- Llyfrgell Llandudno - Dydd Mawrth 10.45am
- Llyfrgell Penmaenmawr - Dydd Gwener 1.30pm
Y Clwb Codio
Mae’r Clwb Codio yn rhwydwaith cenedlaethol o glybiau codio ar ôl ysgol am ddim o dan arweiniad gwirfoddolwyr, yn agored i blant 9-11 oed. Mae gan wefan y clwb gwricwlwm a thaflenni i alluogi gwirfoddolwr i gynnal cwrs o ddosbarthiadau yn addysgu plant i ysgrifennu cod gan ddefnyddio Scratch, Python, HTML a CSS. Mae archebu lle yn hanfodol trwy gysylltu â llyfrgell Conwy. I gael rhagor o wybodaeth ewch i - www.codeclub.org.uk
Sachau Stori
Gallwch fenthyg sachau Stori (mae sach yn cynnwys llyfrau stori, gemau a theganau) ar gyfer plant ifanc. Mae pob sach yn seiliedig ar lyfr lluniau, gyda phropiau a chymeriadau o'r stori i'w gwneud yn hwyl adrodd stori. Mae’r prif gasgliad yn cael ei chadw yn Llyfrgell Llandudno, ond gellir gofyn am sachau stori i'w benthyg o unrhyw un o'n llyfrgelloedd.
Bag ‘Bag Books’
Mae ‘Bag Books’ yn becynnau stori sy'n cynnwys eitemau amlsynhwyraidd i'w defnyddio gan oedolion â phlant sydd ag anableddau dysgu. Mae’r casgliad yn cael ei gadw yn Llyfrgell Llandudno, ond gellir gofyn am fenthyg sachau straeon o unrhyw un o'n llyfrgelloedd.
Helfa Lyfrau Dechrau Da
Gall plant o dan 4 oed gael cerdyn casglwr Helfa Lyfrau am ddim a chasglu sticeri wrth iddynt fenthyg llyfrau. Ar ôl casglu pedwar sticer byddwch yn cael tystysgrif liwgar a gynlluniwyd gan ddarlunydd llyfrau i blant. Po fwyaf o lyfrau y byddwch yn eu benthyg y mwyaf o dystysgrifau a gewch!
Dechrau Da
Bydd babanod newydd anedig a'u rhieni yn derbyn pecyn Dechrau Da 0-12 mis am ddim gan eu hymwelydd iechyd. Bydd ail becyn ar gyfer plant bach yn cael ei roi pan fydd y plentyn yn 18-30 mis. Mae pob pecyn yn cynnwys 2 lyfr, cylchgrawn, a gwybodaeth am sut i ymuno â'r llyfrgell. Ysbrydolwch gariad at lyfrau a darllen gyda'ch plentyn, er mwyn rhoi dechrau da iddynt mewn bywyd!
Llyfrau Llesol (Cymru)
Mae gennym amrywiaeth o lyfrau hunangymorth ar gael yn ein llyfrgelloedd i blant a phobl ifanc i'w helpu i ymdrin â materion emosiynol ac i roi arweiniad ychwanegol. Mae gennym hefyd lyfrau i helpu i roi arweiniad i rieni a gwarcheidwaid. Mae'r llyfrau yn cynnwys pynciau fel:
- profedigaeth
- ysgariad
- bwlio
- hunanhyder isel
- iselder
- y glasoed
- dicter
Rhestr o Lyfrau Llyfrau Llesol Cymru
Prosiect Pob Plentyn yn Aelod Llyfrgell (ECALM)
Mae llyfrgelloedd ac ysgolion cynradd Conwy yn gweithio gyda'i gilydd i roi cerdyn llyfrgell i bob plentyn blwyddyn 4. Mae pob disgybl blwyddyn 4 yn cael y cyfle i ymweld a chael taith dywysedig o amgylch y llyfrgell gyda'u hysgol, cael cerdyn llyfrgell a bag llyfrau am ddim a benthyg 2 lyfr.