Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Polisi Defnydd Derbyniol


Summary (optional)
Mae mynediad i gyfrifiaduron y llyfrgell a'r rhwydwaith diwifr yn Llyfrgelloedd Conwy yn rhad ac am ddim i holl aelodau’r llyfrgell ac ymwelwyr.
start content

Plant a phobl ifanc

Rhaid i bobl ifanc dan 16 oed gael caniatâd rhiant, gwarcheidwad neu ofalwr i gael mynediad i'r Rhyngrwyd. Dylai plant dan 8 fod o dan oruchwyliaeth ar bob adeg pan fyddant yn y llyfrgell, yn unol ag Is-ddeddfau Llyfrgell.

Rhaid i bob defnyddiwr dderbyn, a chytuno i gadw at delerau ac amodau'r Polisi Defnydd Derbyniol isod, cyn y gallant ddefnyddio'r cyfrifiaduron neu'r rhwydwaith diwifr.

Rhaid i chi:

  • ddefnyddio'r Rhyngrwyd a'r offer, mewn modd derbyniol bob amser;
  • parchu preifatrwydd a synwyrusrwydd defnyddwyr llyfrgell eraill;
  • derbyn cyfrifoldeb am ddiogelu eich data personol eich hunain, cadw unrhyw waith, ac allgofnodi o gyfrifon personol cyn i’ch sesiwn ar gyfrifiadur y llyfrgell ddod i ben. 

Ni ddylech:

  • geisio defnyddio cyfrifiadur llyfrgell gan ddefnyddio rhif cerdyn llyfrgell a PIN rhywun arall;
  • ceisio cael mynediad i, creu, lawrlwytho neu drosglwyddo deunydd sy'n anghyfreithlon, pornograffig, sarhaus, difrïol, hiliol, difenwol neu'n debygol o achosi tramgwydd neu ofid diangen;
  • defnyddio'r gwasanaeth i gyflawni unrhyw fath o weithgarwch twyllodrus neu anghyfreithlon;
  • ceisio torri cytundebau hawlfraint neu drwydded meddalwedd;
  • ceisio cael mynediad heb ganiatâd i gyfrifiaduron neu rwydweithiau eraill(hacio);
  • ceisio gwneud newidiadau i osodiad y cyfrifiaduron neu’r feddalwedd sy'n rhedeg arnynt, na cheisio gosod neu lawrlwytho meddalwedd (gan gynnwys firysau) ar yriannau caled cyfrifiadur y llyfrgell;
  • dosbarthu hysbysebu digroeso, neu ddefnyddio'r cyfrifiadur at y diben o enllib, athrod neu aflonyddu.

Cewch eich atgoffa:

  • mae’r ddarpariaeth o fynediad i’r Rhyngrwyd yn eiddo i'r Cyngor a chaiff pob mynediad ei gofnodi a'i logio. Ni fydd cynnwys penodol unrhyw drafodion yn cael ei fonitro oni bai bod amheuaeth o ddefnydd amhriodol;
  • gall yr Awdurdod gyfyngu ar fynediad i safleoedd penodol drwy gyfrwng meddalwedd hidlo;
  • mae gan staff y llyfrgell yr awdurdod i derfynu sesiwn unrhyw ddefnyddiwr os ydynt yn credu bod y defnyddiwr wedi methu â chydymffurfio â'r Polisi Defnydd Derbyniol. Gall staff y Llyfrgell hefyd gyfarwyddo defnyddwyr cyfrifiaduron i ddileu delweddau neu destun amhriodol o'r sgrin os yw'n debygol o beri tramgwydd i ddefnyddwyr eraill y llyfrgell;
  • bydd methu â chydymffurfio â thelerau ac amodau'r Polisi Defnydd Derbyniol yn arwain at atal mynediad at y gwasanaeth hwn;
  • yn achos defnyddiwr cyfrifiadur iau sy'n torri’r Polisi Defnydd Derbyniol hwn, bydd y rhiant neu'r gwarcheidwad a lofnododd y Ffurflen Aelodaeth Llyfrgell yn cael eu hysbysu;
  • efallai y bydd y Gwasanaeth Llyfrgell hefyd yn atal mynediad i’r gwasanaeth hwn o ganlyniad i ddirwyon a thaliadau sylweddol dyledus neu beidio â dychwelyd eitemau a fenthycwyd;
  • gallai torri’r amodau hyn yn anghyfreithlon neu weithgareddau sy'n arwain at golled neu ddifrod i'r Cyngor gael eu cyfeirio ar gyfer camau cyfreithiol neu i'r heddlu.

Ymwadiad

Nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am:

  • unrhyw golled, difrod neu anaf o ganlyniad i ddefnyddio’r cyfleusterau Rhyngrwyd hyn;
  • ansawdd, cywirdeb ac argaeledd gwybodaeth;
  • cyflwyno firysau i offer personol ar ôl defnyddio cyfleusterau’r Rhyngrwyd;
  • unrhyw ganlyniad sy'n deillio o anfon gwybodaeth gyfrinachol dros y Rhyngrwyd;
  • Ni all y Cyngor Sir fod yn gyfrifol am breifatrwydd na diogelwch eich gweithgareddau, ac mae’n annog gofal wrth ymgymryd â thrafodion ariannol ar-lein.
end content