Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Pont Conwy - Adborth i Ymgynghoriad Teithio Llesol


Summary (optional)
Crynodeb o adborth ymgynghoriad ar gynigion ar gyfer gwell llwybr cerdded, beicio ac olwynion dros bont ffordd yr A547 Conwy.
start content

Ynglŷn â’r ymgynghoriad

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfer Cynllun Llwybr Teithio Llesol Pont Conwy o 2 Awst i 23 Awst 2023.

Roedd deunyddiau ymgynghori ar gael ar wefan y Cyngor, fel pecyn papur i’w bostio, ac mewn digwyddiad galw heibio cyhoeddus a gynhaliwyd yn Neuadd Eglwys y Santes Fair, Conwy ar 3 Awst 2023.

Hyrwyddwyd yr ymgynghoriad ar y cyfryngau cymdeithasol, mewn datganiadau i’r wasg, ar wefan y Cyngor ac mewn posteri a llythyrau at fudd-ddeiliaid lleol.

Roedd deunyddiau’r ymgynghoriad yn egluro’r amcanion y byddai’r cynllun yn eu bodloni, gan ddarparu mynediad teithio llesol i bawb rhwng Conwy a Chyffordd Llandudno ar gyfer pobl sy’n cerdded, ar olwynion ac yn beicio.

Roedd yr ymgynghoriad yn rhoi cyfle i gymunedau ystyried 4 dewis a darparu adborth.

Ymatebion i’r ymgynghoriad

Ymatebodd cyfanswm o 161 o bobl i’r ymgynghoriad.

Roedd mwyafrif helaeth yr ymatebion yn dweud bod angen llwybr teithio llesol ar yr A547 Pont Conwy.

Y dewis a ffafrir

  • Dywedodd 104 o bobl (65% o ymatebwyr) mai Dewis C oedd y dewis yr oeddent yn ei ffafrio
  • Roedd 40 o bobl (25%) yn ffafrio Dewis D2
  • Roedd 10 o bobl (6%) yn ffafrio Dewis D1
  • Roedd 5 o bobl yn ffafrio Dewis A3

Y dewis a ffafrir leiaf

  • Dywedodd 65 o bobl (40% o ymatebwyr) mai Dewis D1 yr oeddent yn ei ffafrio leiaf
  • Dywedodd 58 o bobl (36%) mai Dewis A3 yr oeddent yn ei ffafrio leiaf
  • Dywedodd 18 o bobl (11%) mai Dewis D2 oeddent yn ei ffafrio leiaf
  • Dywedodd 14 o bobl (8%) mai Dewis C3 oeddent yn ei ffafrio leiaf

Defnyddio’r llwybr teithio llesol

Dywedodd 118 o bobl (73% o’r ymatebwyr) y byddent yn defnyddio eu llwybr a ffafrir o leiaf unwaith yr wythnos.

  • Dywedodd 56 o bobl y byddent yn ei ddefnyddio 1-2 diwrnod yr wythnos
  • Dywedodd 33 o bobl y byddent yn ei ddefnyddio 3-4 diwrnod yr wythnos
  • Dywedodd 29 o bobl y byddent yn ei ddefnyddio 5-7 diwrnod yr wythnos

Teithio presennol

Gofynnom i bobl ddweud wrthym ni sut maent fel arfer yn teithio rhwng Conwy a Chyffordd Llandudno. Mae rhai pobl yn defnyddio mwy nac un math o gludiant:

  • Dywedodd 110 o bobl eu bod un ai’n cerdded neu’n beicio
  • Dywedodd 72 o bobl eu bod yn defnyddio car preifat
  • Mae 8 yn defnyddio math o gludiant cyhoeddus


Gofynnom i bobl ddweud wrthym ni beth sy’n eu hatal rhag cerdded, beicio neu fynd ar olwynion rhwng Conwy a Chyffordd Llandudno ar hyn o bryd.

  • Ni wnaeth 65% o ymatebwyr ateb y cwestiwn hwn gan nad oedd yn berthnasol iddyn nhw
  • Dywedodd 13 o bobl fod y siwrnai yn cymryd gormod o amser ond dim ond 1 person oedd yn dweud bod y siwrnai yn rhy bell.
  • Dywedodd 11 o bobl eu bod angen cario offer

Beth nesaf?

Bydd canlyniadau’r ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei ychwanegu i’r broses werthuso Cam 2 WelTAG, fel rhan o asesu meini prawf derbynioldeb pob dewis.

Mae’r gwerthusiad hefyd yn cynnwys meini prawf economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol.

Bydd y dewis sy’n sgorio uchaf yn y broses werthuso yn cael ei symud ymlaen a’i ddatblygu fel y dewis a ffafrir yn y cam nesaf.

end content