Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Pont Conwy: Ymgynghoriad Teithio Llesol


Summary (optional)
Rydym yn cynnal yr ymgynghoriad hwn i geisio’ch barn ynglŷn â’r bwriad i greu Llwybr Teithio Llesol ar yr A547 Pont Conwy.
start content

Daw'r ymgynghoriad hwn i ben ar 23 Awst 2023.

Darllenwch adborth yr ymgynghoriad

Ynglŷn â'r prosiect

Rydym wrthi’n ceisio dod o hyd i’r ffordd orau o greu llwybr teithio llesol Pont Conwy yn unol â strategaeth trafnidiaeth Llywodraeth Cymru.

Mae’r llwybr yn mynd rhwng glannau gorllewinol a dwyreiniol Afon Conwy dros y bont bresennol ar yr A547 yng Nghonwy.

Beth yw Teithio Llesol?

Mae teithio llesol yn golygu gwneud teithiau pob dydd drwy gerdded, beicio neu fynd ar olwynion yn hytrach na defnyddio cludant fel car neu fws.   (Mae mynd ar olwynion yn cynnwys defnyddio sgwter symudedd neu gadair olwyn.)

Mae’n fwriad gan Lywodraeth Cymru i annog teithio iachach a lleihau tagfeydd traffig.

Mae teithio llesol yn cynnwys teithiau i’r gwaith, ysgol, coleg, siopau a chyfleusterau hamdden. Rhaid i lwybr teithio llesol gysylltu â’r mannau hyn a bod yn addas ar gyfer teithiau bob dydd. Nid yw Teithio Llesol yn cynnwys llwybrau a ddefnyddir ar gyfer hamdden neu i fynd am dro yn unig.

Beth yw WelTAG?

Cynhyrchwyd Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG) gan Lywodraeth Cymru i’w defnyddio wrth ddatblygu, arfarnu a gwerthuso unrhyw ymyriad trafnidiaeth arfaethedig. Mae’n broses y mae’n rhaid ei chymhwyso i bob prosiect trafnidiaeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Mae WelTAG yn ymgorffori Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ac yn ystyried effeithiau economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol.

Fe luniom adroddiad Cam Un (Achos Amlinellol Strategol) ym mis Medi 2021. Amlygodd yr astudiaeth honno’r problemau presennol a’r cyfleoedd yn yr ardal, ynghyd ag amcanion y cynllun a dulliau posib o’i gyflawni. Buom yn trafod canlyniadau’r adroddiad hwn a chytuno ar yr argymhellion mewn Grŵp Adolygu a gynhaliwyd ar 10 Medi 2021 a Gweithdai Budd-ddeiliaid.

Rydym yn awr yn cynnal astudiaeth Cam Dau, gan ymchwilio i’r dulliau posib yn fanylach a’u harfarnu

Tudalen Nesaf

end content