Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Amcanion


Summary (optional)
start content

Amcanion y Cynllun

Mae amcanion y cynllun hwn wedi deillio o faterion allweddol, cyfyngiadau ac amcanion penodol ar gyfer cludiant y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi’u pennu ac o waith ymgysylltu â budd-ddeiliaid.

Rhagwelwn y bydd gwella’r profiad i gerddwyr a beicwyr yn hwyluso cymudo rhwng Conwy a Chyffordd Llandudno a thu hwnt ac yn denu mwy o ymwelwyr i'r ardal drwy gerdded a beicio.

Prif Amcanion

  • Gwella’r cysylltiadau teithio llesol rhwng Conwy a Chyffordd Llandudno
  • Lleihau gwrthdaro rhwng defnyddwyr sydd ddim yn gyrru cerbydau wrth groesi'r afon
  • Annog teithio llesol yn hytrach na defnyddio ceir preifat
  • Dileu’r angen i bobl ddod oddi ar eu beiciau wrth groesi’r bont gerbydau
  • Gwneud teithio i/o Gonwy heb gerbyd modur yn fwy deniadol i bobl
  • Peidio ag amharu ar yr amgylchedd
  • Peidio ag amharu ar asedau treftadaeth

Tudalen Nesaf

end content