Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Craig y Don – Ymgynghoriad Teithio Llesol


Summary (optional)
Achubwch ar y cyfle hwn i ddweud eich dweuda rhannu eich safbwyntiau ar y cynigion ar gyfer Craig y Don a sut y gellir gwella cerdded, teithiau ar olwynion a beicio yn yr ardal.
start content

Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ar 19 Awst 2022.

Diolch i chi am ymweld a bod yn fodlon rhoi eich syniadau i ni. Rydym angen eich cymorth wrth i ni ddatblygu cynlluniau i wneud Llandudno yn lleoliad gwell i fyw, gweithio ac ymweld  ag ef.  Wrth uwchraddio a chreu llwybrau cerdded a beicio newydd rydym yn anelu i wneud teithio llesol y ffordd arferol ar gyfer siwrneiau lleol. Mae hyn yn lleihau traffig diangen ac yn cynorthwyo teuluoedd i deithio’n ddiogel ac mewn modd cynaliadwy.

Mae Cymru’n unigryw gan fod deddfwriaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i gynghorau hyrwyddo a gwella teithio cynaliadwy. Deddf Teithio Llesol (Cymru) sy’n nodi’r uchelgais clir o roi cerdded a beicio yn ganolog ar gyfer teithiau lleol. Er mwyn gwneud hyn yn iawn, mae’n hanfodol bod pobl leol yn rhan o’r sgwrs,  er mwyn i fwy o bobl deimlo y gallant ddewis cerdded, olwynion neu feicio yn lle’r car ar gyfer teithiau byr yn lleol.

Rhannwch eich barn yma a rhannwch y wybodaeth i annog cymaint o bobl â phosibl i gymryd rhan.

Ynglŷn â'r prosiect

Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar Landudno, ardal Craig y Don o Nant y Gamar Road, Roumania Drive, Queens Road, Balfour Road a Clarence Drive i Clarence Court. Gallwch hefyd ddweud wrthym ni am bethau y tu allan i’r ardaloedd hyn, ond ein prif ffocws yw gwella ardaloedd lle mae’r angen mwyaf am newid a’r potensial mwyaf i fwy o bobl deithio’n llesol.

Rydym wedi derbyn cyllid grant gan Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru ar gyfer y gwaith ymchwilio, dylunio ac ymgysylltu â’r cyhoedd.  Dewiswyd y llwybr hwn oherwydd ei fod yn cael ei ddefnyddio gan bobl sy’n teithio pellteroedd byr yn rheolaidd; i’r ysgol ac o’r ysgol, canolfannau hamdden a chymunedol, safleoedd cyflogaeth, siopa’n lleol a chyswllt cyfnewid cludiant. 

Mae’r gwaith arfaethedig yn cynnwys: 

  • Croesfan ‘sebra’ paralel ar Queens Road
  • Croesfan ‘sebra’ paralel wedi’i uwchraddio ar Clarence Crescent
  • Croesfannau ychwanegol ar gyfer cerddwyr, yn enwedig yn Ysgol y Gogarth ac Ysgol Craig y Don
  • Lledu troedffyrdd a llwybrau defnydd a rennir
  • Parthau ‘Stryd Dawel’ a marciau ffordd ychwanegol
  • Gostegu traffig ar Nant y Gamar Road, Balfour Road a diwygiadau ar Roumania Drive
  • Triniaeth ymuno ffordd ymyl ar gyfer mwyafrif y ffyrdd sy’n ymuno â’r llwybr

Beth sy’n digwydd wedyn?

Bydd yr holl adborth o’r ymgynghoriad yn cael ei ddadansoddi a’i ystyried yn ofalus wrth i ni lunio dyluniad terfynol. Byddwn yn gwneud cais am ragor o gyllid i gyflawni’r gwaith adeiladu; felly mae’n bwysig ei fod yn adlewyrchu safbwynt pobl leol.

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content