Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Deddf Teithio Llesol Cymru


Summary (optional)
Ynglŷn â Deddf Teithio Llesol Cymru.
start content

Mae Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor hyrwyddo a gwella llwybrau a chyfleusterau Teithio Llesol.

Mae’n rhaid i ni ofalu bod cynlluniau ffyrdd newydd (gan gynnwys cynlluniau gwella ffyrdd a phalmantau) yn ystyried anghenion cerddwyr a beicwyr.

Mae’n rhaid i ni hefyd baratoi mapiau sy’n dangos y llwybrau sy’n bodoli a rhai posib’ at y dyfodol ar gyfer Teithio Llesol.

Rydym ni wedi creu mapiau o lwybrau sy’n bodoli (LINK) ac wedi ystyried llwybrau at y dyfodol.

Y trefi a phentrefi yng Nghonwy sy’n bodloni gofynion Llywodraeth Cymru fel Ardaloedd Teithio Llesol yw:

  • Abergele a Phensarn
  • Bae Colwyn
  • Conwy
  • Deganwy
  • Hen Golwyn
  • Llandrillo-yn-Rhos
  • Llandudno
  • Llanfairfechan
  • Llanrwst
  • Llansanffraid Glan Conwy
  • Llysfaen
  • Penmaenmawr
  • Towyn a Bae Cinmel

Mae’r rhestr hon yn seiliedig ar faint y boblogaeth ac yn cael ei rhoi i ni gan Lywodraeth Cymru.

Cysylltu â ni:

Os oes gennych chi unrhyw adborth am lwybrau sy’n bodoli’n barod neu os hoffech chi awgrymu llwybr neu gyswllt newydd, cysylltwch â ni:

Dweud Eich Dweud – Teithio Llesol Conwy – Commonplace

Amserlen

Rydym ni wedi bod yn gweithio yn ôl amserlen sydd wedi’i phennu gan y Ddeddf Teithio Llesol:

  • Gaeaf 2015/2016 Ymgynghori â’r cyhoedd ar lunio mapiau o lwybrau sy’n bodoli
  • Ionawr 2016 Cyflwyno’r mapiau o lwybrau sy’n bodoli i Lywodraeth Cymru.
  • Awst 2016 Derbyn cymeradwyaeth gan y gweinidogion ar gyfer ein mapiau o lwybrau sy’n bodoli.
  • Hydref 2016 Ymgynghori â’r cyhoedd ar y map rhwydwaith integredig a llwybrau newydd posib’.
  • Medi 2017 Cyflwyno’r map rhwydwaith integredig ac ailgyflwyno’r map o lwybrau sy’n bodoli i Lywodraeth Cymru.
  • Rhagfyr 2020 Ailgyflwyno’r map o lwybrau sy’n bodoli a’r map rhwydwaith integredig i Lywodraeth Cymru.

Mae’n rhaid i ni gyflwyno ein map o lwybrau sy’n bodoli a’r map rhwydwaith integredig i Lywodraeth Cymru’n rheolaidd er mwyn cael eu cymeradwyaeth. Mae hyn yn caniatáu i Lywodraeth Cymru fonitro ein cynnydd ar ddarparu llwybrau sy’n caniatáu Teithio Llesol.

Llywodraeth Cymru: Canllawiau a ffurflenni ar gyfer cynllunio a dylunio rhwydweithiau o lwybrau cerdded a beicio.

end content