Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Marl Lane - Adborth Ymgynghoriad


Summary (optional)
Crynodeb o adborth ymgynghoriad ar gynigion i wella’r llwybrau ar gyfer cerdded, beicio a theithio ar olwynion ar hyd Marl Lane.
start content

Ynglŷn â’r ymgynghoriad

Cynhaliwyd ymgynghoriad teithio llesol Marl Lane rhwng 21 Mehefin ac 13 Gorffennaf 2023.

Roedd deunyddiau ymgynghori ar gael ar wefan y Cyngor, ar ffurf pecyn papur drwy’r post, drwy apwyntiad yn swyddfeydd Coed Pella, yn ogystal ag opsiynau hygyrch ychwanegol gan gynnwys dehongliad Iaith Arwyddion Prydain.

Hyrwyddwyd yr ymgynghoriad ar y cyfryngau cymdeithasol, mewn datganiadau i’r wasg, ar wefan y Cyngor ac mewn llythyrau at fudd-ddeiliaid lleol.

Roedd deunyddiau’r ymgynghoriad yn egluro’r materion y gobeithiwyd y byddai’r cynllun yn mynd i’r afael â hwy.  Roedd hyn yn cynnwys diffyg cysylltiadau priodol i gerddwyr a beicwyr rhwng Deganwy a Chyffordd Llandudno a’r anawsterau o ran cysylltiad i gymunedau Bryn Pyrdew ac Esgyryn gyda chyfleusterau mewn trefi a phentrefi cyfagos yn sgil yr A470 a’r diffyg mannau croesi diogel.

Roedd yr ymgynghoriad hwn yn cynnig cyfle i gymunedau a defnyddwyr ffyrdd eraill ystyried y cynigion a darparu adborth ar y cynllun a sut i’w wella.

Ymatebion i’r ymgynghoriad

  • Ymatebodd 43 o bobl i’r ymgynghoriad
  • Dywedodd 35 o bobl eu bod yn bennaf o blaid y cynigion
  • Dywedodd 8 o bobl eu bod yn bennaf yn erbyn y cynigion

Roedd cryn dipyn o’r adborth wedi crybwyll materion mewn perthynas â chroesi’r A470:

“Mae’n hen bryd i’r broblem hon gael ei datrys. Mae croesi’r A470 yn beryglus sy’n golygu bod yn rhaid i ni ddefnyddio ein ceir heb fod angen ar adegau prysur. Bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol enfawr i bawb ym Mryn Pydew a Chyffordd Llandudno.”
“Bydd cynnwys systemau rheoli traffig, megis goleuadau traffig, yn ei gwneud hi’n llawer haws i groesi’r A470 a chael mynediad at ardaloedd megis Coed Marl. Bydd hefyd yn ei gwneud yn haws i rieni gerdded eu plant i ac o’r ysgol i ystadau cyfagos, gan leihau’r traffig ar ac o amgylch yr A470."
“Rwy’n croesi’r A470 i fynd i Goed Marl yn rheolaidd. Byddai hyn yn ei wneud yn llawer mwy diogel.”
“Am fendigedig! Rwy’n gyrru dros yr A470 i fynd â’r ci am dro i Goed Marl ar hyn o bryd gan nad wyf yn teimlo’n ddiogel yn croesi ar droed. Byddai’r cynlluniau hyn yn fy ngalluogi i adael y car gartref.”
“Rwyf o blaid gosod mannau croesi ar yr A470. Rydym yn byw yn ystâd Gwel y Mynydd ac yn gyrru’r car dros y brif ffordd yn rheolaidd i fynd i Goed Marl gan nad oes man diogel i groesi. Byddai mannau croesi’n fuddiol iawn.”
“Rwy’n croesawu unrhyw gynlluniau i wneud yr ardal yn fwy hygyrch i gerddwyr. Rwyf wrth fy modd yn cerdded yng Nghoed Marl. Rwy’n byw’n agos iawn i Goed Marl, ond mae’n rhaid i mi ddefnyddio’r car i gyrraedd yno ar hyn o bryd gan nad ydw i’n teimlo’n ddiogel yn croesi’r ffordd, yn arbennig gyda’m plentyn ifanc.”
“Rwy’n hoff iawn o’r cynllun hwn. Credaf y bydd yn dda i’r amgylchedd. Rwyf hefyd yn cymeradwyo’r agwedd gyfeillgar i blant a cherddwyr hefyd. Bydd y cynllun yn dda iawn i’r gymuned leol.”
“Rwy’n defnyddio’r llwybr hwn bob dydd i fynd â’r ci am dro ac fe ddylai cynghorau ymgysylltu â gwelliannau lleol sy’n annog pobl i fynd allan a cherdded neu feicio i hyrwyddo iechyd a lles y gymuned. Rwy’n bendant o blaid y cynigion hyn er mwyn diogelu a chefnogi lles y gymuned leol. Diolch.”

Roedd rhai ymatebwyr yn bryderus am effaith y goleuadau traffig a fyddai’n rheoli’r mannau croesi i gerddwyr:

“Fel rhywun sy’n cerdded ac yn gyrru ar y ffordd hon yn ddyddiol, credaf y gallai goleuadau traffig achosi problemau. Rwy’n teimlo y gallai ychwanegu goleuadau traffig achosi damweiniau sylweddol oni bai bod y terfyn cyflymder yn cael ei newid.”
“Mae’r A470 yn un o’r prif lwybrau i mewn ac allan o Landudno, mae’r traffig yn sgil y gwaith ffordd presennol yng Nghyffordd Llandudno a’r defnydd o’r ffordd hon fel llwybr amgen yn hurt. Byddai unrhyw gynllun sy’n culhau’r ffordd, yn cyfyngu’r cyflymder 60mya neu’n gosod mannau croesi i gerddwyr ar brif lwybr mor allweddol yn syniad gwael gan y byddai hyn yn achosi llawer mwy o broblemau yn hytrach na’u datrys.”

Roedd un preswylydd o’r farn fod y cynllun yn canolbwyntio ar anghenion gyrwyr yn hytrach na beicwyr a cherddwyr:

“Cynlluniau traffig yn seiliedig ar geir unwaith eto, er gwaetha’r modd. Rydych yn gwneud popeth o fewn eich gallu i ddargyfeirio beicwyr a cherddwyr er mwyn osgoi unrhyw effaith ar lif traffig yr A470.  Rydym yn haeddu gwell yn 2023.”

Casgliad

Rydym ni wedi ystyried bob un sylw a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad. Nid yw’r cynllun wedi newid yn sylweddol ers yr hyn a gyflwynwyd yn yr ymgynghoriad, credwn fod y cynigion yn darparu’r cydbwysedd cyffredinol gorau i holl ddefnyddwyr y ffyrdd a’r llwybrau teithio llesol.

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content