Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Marl Lane - Ymgynghoriad Teithio Llesol


Summary (optional)
Rhowch wybod inni beth yw’ch barn ynglŷn â’r cynigion i wella’r llwybrau ar gyfer cerdded, beicio a theithio ar olwynion ar hyd Marl Lane.
start content

Daw'r ymgynghoriad hwn i ben ar 13 Gorffennaf 2023.

Darllenwch adborth yr ymgynghoriad

Ein nod wrth uwchraddio a chreu llwybrau cerdded a beicio newydd yw bod teithio llesol yn dod yn ffordd arferol o fynd o amgylch yr ardal leol. Mae hyn yn lleihau traffig diangen ac yn helpu teuluoedd i deithio’n ddiogel ac mewn ffordd gynaliadwy.

Mae Deddf Teithio Llesol (Cymru) yn cyfleu uchelgais bendant i sicrhau mai cerdded a beicio yw’r dulliau pennaf o deithio’n lleol. Er mwyn cael pethau’n iawn mae’n hollbwysig bod pobl leol yn rhan o’r sgwrs. Fel hynny bydd mwy o bobl yn teimlo eu bod yn gallu dewis cerdded, beicio neu deithio ar olwynion yn hytrach na defnyddio’r car i deithio pellteroedd byr yn lleol.

Ynglŷn â’r prosiect 

Bydd y cynllun hwn yn cau bylchau na chawsant eu cynnwys yn y gwaith i wella’r rhwydwaith teithio llesol y llynedd. Wedi gorffen y llwybr bydd yn cysylltu cymunedau â chyfleusterau a mannau hamdden.

Bydd y llwybr yn gyfuniad o rannau ar y ffordd, rhannau wrth ymyl y ffordd ond ar wahân, a rhannau sy’n hollol ar wahân o’r ffordd

Beth yw'r problemau?

Mae cysylltiad rhwng Deganwy a Chyffordd Llandudno ar hyd yr B5115, Ffordd Pentywyn, a Marl Lane. Er gwaethaf hynny mae diffyg cysylltiadau addas i gerddwyr a beicwyr rhwng y naill gymuned a’r llall, gyda rhannau heb balmant, mannau cul a phrinder mannau addas i groesi.

Defnyddiwyd y cyllid a gafwyd y llynedd i greu rhan o lwybr Teithio Llesol sy’n mynd o Marl Lane, ond daw’r llwybr hwnnw i ben cyn cyrraedd yr ysgol leol, Ysgol Deganwy. Mewn blynyddoedd diweddar mae nifer y cerbydau sy’n danfon plant i’r ysgol a’u nôl wedi codi problemau ynghylch diogelwch y ffordd, rhwystro ffyrdd a phalmentydd, ei gwneud yn anos i gerddwyr weld wrth groesi’r ffordd, a chreu gwasgfa i feicwyr geisio wneud eu ffordd drwyddi.

Ar ben arall y cynllun, i’r de-ddwyrain o Marl Lane yn Ysgol Awel y Mynydd, mae’r un problemau’n digwydd â rhwystrau, parcio ar y stryd a thagfeydd yn sgil hynny. Bydd y cynllun arfaethedig yn annog pobl i beidio â defnyddio’u ceir wrth deithio’n lleol ac yn cyfrannu at leihau’r llifau traffig yn yr ardal.

Mae’n anodd ar hyn o bryd i bobl yng nghymunedau Bryn Pydew ac Esgyryn i gyrraedd y cyfleusterau yn y trefi a phentrefi cyfagos, oherwydd yr A470. Nid oes unlle diogel i gerddwyr groesi’r briffordd hon.

Bydd y gymuned gyfan yn elwa ar y cynllun gan y bydd lleihau tagfeydd o draffig yr ysgol yn gwella hygyrchedd, yn ei gwneud yn haws rhagweld hyd pob taith ac yn lleihau allyriadau carbon.

Rydym wedi derbyn cyllid grant gan Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru ar gyfer y gwaith ymchwilio, dylunio ac ymgysylltu â’r cyhoedd ac ar gyfer adeiladu’r cynllun.

Mae’r gwaith arfaethedig yn cynnwys:

  • Lledu palmentydd a llwybrau a rennir
  • Creu croesfan a rennir gyda goleuadau traffig ar yr A470 ger cylchfan Marl Lane
  • Creu llwybr a rennir ar hyd yr A470 hyd at Nant y Glyn
  • Creu croesfan a rennir gyda goleuadau traffig ar yr A470 ger cylchfan Narrow Lane
  • Creu croesfan a rennir gyda goleuadau traffig ar Pentywyn Road
  • Mannau croesi ychwanegol i gerddwyr ar hyd y llwybr

 

Dewisiadau hygyrch

Gallwn ddarparu’r testun eglurhaol ar ffurf PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddeall, recordiad clywedol neu braille. Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth dehongli Iaith Arwyddion Prydain.

Gallwn hefyd ddisgrifio’r llwybr ar lafar dros y ffôn. Mae gennym swyddog sy’n siarad Cymraeg a swyddog sy’n siarad Saesneg ar gael.

Gall preswylwyr ffonio Tîm Cynghori AFfCh ar 01492 575337 i siarad gyda swyddog. Os nad oes swyddog ar gael, byddwn yn cymryd eu manylion ac yn trefnu bod rhywun yn eu ffonio’n ôl.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Byddwn yn dadansoddi’r holl ymatebion a gawn i’r ymgynghoriad hwn a’u hystyried yn fanwl. Fe ddiwygiwn unrhyw agweddau ar y dyluniad y mynegir pryderon yn eu cylch yn yr ymgynghoriad, cyn inni geisio caniatâd i wneud y gwaith.

Bwriadwn ddechrau’r gwaith adeiladu yn ddiweddarach eleni (2023).

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content