Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Beth yw Teithio Llesol?


Summary (optional)
start content

Mae Teithio Llesol yn golygu teithio’n arferol trwy gerdded neu feicio yn hytrach na defnyddio cludiant fel ceir neu fysiau. (Mae’r term “cerdded” yn cynnwys defnyddio cadeiriau olwyn, sgwteri neu gymorthyddion symud eraill.)

Mae’n fenter gan Lywodraeth Cymru i annog teithio mewn ffordd iachach a lleihau tagfeydd traffig.

Mae Teithio Llesol yn cynnwys teithio i’r gwaith, yr ysgol, coleg, siopau a chyfleusterau hamdden. Mae’n rhaid i lwybr Teithio Llesol gysylltu â’r mannau hyn er mwyn bod yn addas ar gyfer teithiau bob dydd. Nid yw Teithio Llesol yn cynnwys llwybrau sydd ar gyfer hamdden yn unig.

Rhagor o wybodaeth am lwybrau diweddar a newydd yn Sir Conwy

Am ragor o wybodaeth am Deithio Llesol, ewch i  wefan Llywodraeth Cymru

end content