Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Parcio'n beryglus neu rwystro


Summary (optional)
Sut y gallwch adrodd am barcio peryglus neu rwystro
start content

Mae’r Cyngor yn rheoli parcio yn ein meysydd parcio a lleoedd parcio ar y strydoedd â thâl. Rydym yn dosbarthu tâl cosb am droseddau parcio hefyd, megis parcio ar linellau melyn dwbl.

Yr Heddlu sy'n gyfrifol am barcio peryglus neu rwystro.

Rhwystro’r palmant neu’r ffordd

Mae cerbydau sydd wedi parcio ar balmentydd yn rhwystr ffordd posib, ac yn beryglus. Mae cerddwyr yn cael eu gorfodi i gerdded ar hyd y ffordd i fynd o amgylch y cerbydau. Mae hyn yn broblem benodol i gerddwyr sy’n ddall neu â nam ar eu golwg, defnyddwyr cadair olwyn, pobl â phramiau a'r henoed.

Heddlu Gogledd Cymru - gwybodaeth bellach

Gallwch adrodd am gerbyd sy’n achosi rhwystr drwy ffonio 101 neu adrodd i'r Heddlu ar-lein yma: https://www.northwales.police.uk/cy-GB/riportio/riportio/asb/asb/riportio-ymddygiad-gwrthgymdeithasol/

Rhwystro dreifiau

Mae'n drosedd parcio ar draws palmant isel, ac eithrio:

  • Gall gyrrwr stopio i lwytho a dadlwytho nwyddau
  • Gall gyrrwr barcio o flaen eiddo preswyl gyda chaniatâd y perchennog, os nad oes cyfyngiadau parcio ar y ffordd

Gallwch adrodd am gerbyd sy’n achosi rhwystr drwy ffonio 101 neu adrodd i'r Heddlu ar-lein yma: https://www.northwales.police.uk/cy-GB/riportio/riportio/asb/asb/riportio-ymddygiad-gwrthgymdeithasol/

Os yw cerbydau wedi’u parcio yn atal mynediad i’ch dreif yn aml, yna efallai y byddwch eisiau gwneud cais am farciau amddiffyn mynedfa ger y fynedfa i’ch dreif.

Parcio ar linellau dwbl, llinellau igam ogam, mewn gorsafoedd bysiau neu mewn mannau gyda chyfyngiad aros

Gall y Cyngor ddosbarthu hysbysiadau cosb am droseddau parcio. Os ydych chi’n ymwybodol o broblem gyson, cysylltwch â’n tîm Gwasanaethau parcio gan ddarparu gymaint o wybodaeth ag y gallwch.

Yn yr adran hon

Drag side panels here (optional)
end content