Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Mynediad i'ch Dreif


Summary (optional)
Gwarchod mynediad i’ch dreif
start content

Os oes cerbydau’n parcio ar draws eich dreif yn aml, efallai y byddwch eisiau gwneud cais am farciau gwarchod mynediad.

Marc gwyn ydi hwn, tebyg i briflythyren ‘H’ wedi’i hymestyn, sy'n cael ei baentio ar draws y fynedfa, a gall ymestyn hyd uchafswm o fetr y tu hwnt i derfynau’r fynedfa.

Yn wahanol i linellau melyn, nid yw’r marciau hyn yn waharddiad parcio ond yn hytrach yn tynnu sylw at fodolaeth mynediad i gerddwyr, beiciau neu gerbydau i’r briffordd.

Faint mae hyn yn ei gostio?

Mae cost sefydlog o £182.88 am osod y marciau.

Os hoffech drefnu i’ch mynedfa gael ei harchwilio neu holi ynghylch y gost ar gyfer eich dreif chi cysylltwch â'n tîm

Beth yw’r gyfraith o ran parcio ar draws dreif?

Mae’n drosedd parcio wrth ymyl palmant isel. Fodd bynnag, mae yna eithriadau sy'n caniatáu i yrrwr barcio o flaen eiddo preswyl gyda chaniatâd perchennog yr eiddo, ar yr amod nad oes unrhyw gyfyngiadau parcio ar y ffordd.  Caiff gyrwyr hefyd stopio i lwytho a dadlwytho nwyddau.  

Os byddwch angen rhoi gwybod am rwystr, ffoniwch yr heddlu ar 101.

Mae gan y Cyngor bŵer i orfodi’r gyfraith o ran “parcio ger palmant isel” sy'n cael ei ddefnyddio i sicrhau bod croesfannau cerddwyr, lonydd beicio a mynedfeydd busnesau’n cael eu cadw'n glir. Nid oes gennym unrhyw bwerau i symud cerbyd, dim ond i gyflwyno Hysbysiad Cosb Benodedig.

end content