Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Gwybodaeth am Fysiau


Summary (optional)
Cynlluniwch eich taith o amgylch Sir Conwy ar fws
start content
Er mwyn eich helpu i gynllunio eich taith o amgylch Sir Conwy, dyma rai dolenni a gwybodaeth ddefnyddiol:

1bws ticket

Mae’r tocyn aml-weithredwr 1bws newydd yn gadel i chi ddefnyddio gwasanaethau 27 o weithredwyr bysiau a bron i 200 o lwybrau bysiau ledled Gogledd Cymru

Fflecsi – Dyffryn Conwy

Mae fflecsi yn ffordd newydd o deithio o amgylch Dyffryn Conwy.  

Mae’r bws fflecsi ar gael o ddydd Llun i ddydd Sadwrn o 7am i 7pm, gan gynnig teithiau i leoliadau gwahanol fel Llanrwst, Betws-y-coed, Corwen, Penmachno a Llangernyw ar ddiwrnodau gwahanol o’r wythnos.

Ar bob taith sydd ar gael, bydd fflecsi yn gallu codi a gollwng unrhyw le ar hyd y daith. Gall teithwyr archebu eu taith drwy ddefnyddio ap fflecsi, gwefan fflecsi neu drwy ffonio 0300 234 0300.

Mae tocynnau unffordd oedolion yn dechrau o £1 i hyd at uchafswm o £3 yn amodol ar y pellter. Gall plant deithio am cyn lleied â 50c, hyd at uchafswm o £1.50 yn amodol ar y pellter. Fod y rhai sydd â cherdyn teithio rhatach yn teithio am ddim.

Sherpa'r Wyddfa

Mae Sherpa'r Wyddfa yn wasanaeth bws sy'n teithio o amgylch troed yr Wyddfa, gan gysylltu'r chwe prif lwybr i fyny'r Wyddfa, yn ogystal â phentrefi, mannau twristaidd a phrif feysydd parcio.

Mae'n darparu gwasanaeth gwych i gerddwyr a dringwyr, yn ogystal ag ymwelwyr i'r ardal sy'n dymuno dechrau eu taith a gweld ble fydd yn mynd â nhw.

Parcio a theithio

Osgowch y maes parcio prysur a llawn ym Mhen y Pass gyda Gwasanaeth Parcio a Theithio Sherpa’r Wyddfa o feysydd parcio Nant Peris a Phenygwryd.

Cwynion

Os ydych chi’n anfodlon ar y ffordd y mae cwmni bysus wedi ymdrin â’ch cwyn, neu os credwch nad yw’r cwmni wedi’ch trin yn deg, cysylltwch â Defnyddwyr Bysiau Cymru. Gallwch gael help gydag unrhyw broblem, gan gynnwys gyrrwr blin neu fws yn dod yn gynnar neu’n hwyr.

Bus Users Cymru,
PO Box 1045,
Cardiff CF11 1JE,
029 2034 4300

wales@bususers.org
end content