Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

A547 Abergele Road / Llanddulas Road, Abergele - Terfyn Cyflymder: Hysbysiad


Summary (optional)
Rheswm y Cyngor dros wneud y Gorchymyn yw:
  • gwella diogelwch ar y ffyrdd
start content

Cyfeirnod: CCBC - 043842

Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Conwy (A547 Abergele Road/Llanddulas Road, Abergele - Terfyn Cyflymder) 2023


Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi gwneud y Gorchymyn a enwir uchod o dan Adrannau 82(2) 83(2) 84(1) ac 84(2) a Rhan IV o Atodlen 9 o Ddeddf Rheoli Traffig Ffyrdd 1984 a fydd yn gwahardd unrhyw un rhag gyrru unrhyw gerbyd modur ar gyflymder sydd dros y terfyn cyflymder ar hyd y darnau o ffordd fel a nodir yn  Atodlen 1 a 2 isod.  Mae’r Gorchymyn a wnaed yn flaenorol sef Gorchymyn (Ffyrdd Cyfyngedig) (Rhif 8) Cyngor Sir Ddinbych 1964 trwy hyn yn cael ei ddirymu cyhyd a’i fod yn effeithio ar y darn o ffordd a ddisgrifir yn Atodlen 3.

Gellir archwilio copi o'r Gorchymyn, a ddaw i rym ar 26 Mehefin 2023 ar wefan y Cyngor.

Os ydych yn dymuno cwestiynu dilysrwydd y Gorchymyn neu unrhyw ddarpariaeth a gynhwysir ynddo, ar y sail nad yw'n dod o fewn y pwerau a roddir gan Ddeddf Rheoli Trafnidiaeth Ffyrdd 1984, neu ar y sail na chydymffurfiwyd, mewn perthynas â'r Gorchymyn, a rhyw amod o'r Ddeddf neu unrhyw offeryn a wnaed dan y ddeddf, gallwch wneud cais i'r Uchel Lys i'r perwyl hwn o fewn chwe wythnos i ddyddiad y Rhybudd hwn.

Atodlen 1 - Terfyn Cyflymder 50mya

A547 Abergele Road / Llanddulas Road

  • O bwynt 40 metr i’r dwyrain o’i chyffordd â Beulah Avenue i bwynt 40 metr i’r gorllewin â’r gyffordd â Pharc Busnes Gogledd Cymru

Atodlen 2 - Terfyn Cyflymder Cenedlaethol Ffordd Heb Gyfyngiad yn weithredol

Bryn Dulas, Llanddulas

O’i chyffordd â Ffordd Llindir i’w chyffordd â Beulah Avenue

Atodlen 3 - Dirymiadau

Beulah Road

  • O’i chyffordd â Ffordd yr A55 Abergele-Llanddulas-Bae Colwyn i bwynt 10 llath o Lysfaen ac ar ochr Llysfaen y gyffordd â Ffordd Arnold House – hyd tua 870 llath

 

Dyddiedig: 21 Mehefin 2023

CeriWilliamsSignature

Ceri Williams
Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol


Tudalen Nesaf: Gorchymyn

end content