Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

A547 Abergele Road / Llanddulas Road, Abergele - Terfyn Cyflymder: Gorchymyn


Summary (optional)
Rheswm y Cyngor dros wneud y Gorchymyn yw:
  • gwella diogelwch ar y ffyrdd
start content

Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Conwy (A547 Abergele Road / Llanddulas Road, Abergele - Terfyn Cyflymder) 2023


Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wrth ddefnyddio’i bwerau dan Adran 82(2) 83(2) 84(1) ac 84(2) a Rhan IV o Atodlen 9 o’r Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (y cyfeirir ato o hyn ymlaen fel “Deddf 1984”) a phob pŵer arall sy’n galluogi, ar ôl ymgynghori â Phrif Swyddog yr Heddlu yn unol â Rhan 3 Atodlen 9 Deddf 1984, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:-

  • 1.  YN Y GORCHYMYN HWN

    mae “cerbyd modur" yn golygu cerbyd a yrrir yn fecanyddol a fwriadwyd neu a addaswyd i'w ddefnyddio ar y ffyrdd fel y'i diffinnir yn Adran 185 o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988.

    ystyr “cerbyd eithriedig” yw:
    • (a)  unrhyw gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio gan y gwasanaethau brys at y dibenion a ddisgrifir yn adran 87 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984(1);
    • (b)  unrhyw gerbyd sy'n cael ei ddefnyddio at ddibenion y llynges, y fyddin neu'r llu awyr, ac yn cael ei yrru gan berson am y tro yn ddarostyngedig i reolau aelod o luoedd arfog y Goron, sy'n aelod o'r lluoedd arbennig – 
      • (i)  mewn ymateb, neu ar gyfer ymarfer ymateb, i argyfwng diogelwch cenedlaethol gan berson sydd wedi'i hyfforddi mewn gyrru ar gyflymder uchel; neu
      • (ii)  at y diben o hyfforddi person wrth yrru cerbydau ar gyflymder uchel

mae “lluoedd arbennig" yn golygu'r unedau hynny o'r lluoedd arfog y mae eu cynnal a chadw yn alluoedd sy’n gyfrifoldeb Cyfarwyddwr y Lluoedd Arbennig neu sydd am y tro yn destun gorchymyn gweithredol y Cyfarwyddwr hwnnw

  • 2.  Ni chaiff unrhyw un yrru unrhyw gerbyd modur ar gyflymder sydd dros 50 mya  ar hyd y ffordd fel y nodir yn Atodlen 1.

  • 3.  Ni chaiff unrhyw unigolyn yrru cerbyd modur ar gyflymder uwch na’r terfyn cyflymder a ganiateir dan y meini prawf cenedlaethol ar gyfer ffyrdd dosbarthedig ar y darnau ffordd y manylir arnynt yn Atodlen 2, a thrwy hyn gael eu wneud yn ffyrdd digyfyngiad.

  • 4.  Mae’r Gorchymyn a wnaed yn flaenorol sef Gorchymyn (Ffyrdd Cyfyngedig) (Rhif 8) Cyngor Sir Ddinbych 1964  trwy hyn yn cael ei ddirymu cyhyd a’i fod yn effeithio ar y darn o ffordd a ddisgrifir yn  Atodlen 3.

  • 5.  Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 26 Mehefin 2023 a gellir ei enwi’n Orchymyn Bwrdeistref Sirol Conwy (A547 Abergele Road / Llanddulas Road,  Abergele - Terfyn Cyflymder) 2023.

Atodlen 1 - Terfyn Cyflymder 50mya

A547 Abergele Road / Llanddulas Road

O bwynt 40 metr i’r dwyrain o’i chyffordd â Beulah Avenue i bwynt 40 metr i’r gorllewin â’r gyffordd â Pharc Busnes Gogledd Cymru

Atodlen 2 - Terfyn Cyflymder Cenedlaethol Ffordd Heb Gyfyngiad yn weithredol 

Bryn Dulas, Llanddulas

O’i chyffordd â Ffordd Llindir i’w chyffordd â Beulah Avenue

Atodlen 3 - Dirymiadau

Beulah Road

O’i chyffordd â Ffordd yr A55 Abergele-Llanddulas-Bae Colwyn i bwynt 10 llath o Lysfaen ac ar ochr Llysfaen y gyffordd â Ffordd Arnold House – hyd tua 870 llath


RHODDWYD
 dan y Sêl Gyffredin Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar y 16 dydd hwn o Mehefin Dwy fil a thair ar hugain


Tudalen Nesaf: Mapiau

end content