Cyfeirnod: CCBC - 049737
Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Conwy (Promenâd Llanfairfechan) (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros) 2025
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi gwneud Gorchymyn o dan Adrannau 1 a 2 a Rhan IV Atodlen 9, Deddf Rheoli Trafnidiaeth Ffyrdd 1984, a’i effaith fydd cyflwyno cyfyngiadau ar y darnau o ffordd fel y nodir yn yr Atodlenni isod.
Gellir archwilio copi o'r Gorchymyn a'r cynlluniau, a fydd yn dod i rym ar 28 Gorffennaf 2025 ar wefan y Cyngor. Os ydych am gwestiynu dilysrwydd y Gorchymyn neu unrhyw ddarpariaeth ynddo ar y sail nad yw o fewn y pwerau a roddir gan Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984, neu ar y sail na chydymffurfiwyd ag unrhyw ofyniad o’r Ddeddf honno neu unrhyw offeryn a wnaed oddi tani, o ran y Gorchymyn, gallwch wneud cais i’r Uchel Lys at y diben hwn, cyn pen chwe wythnos o’r dyddiad hwn.
Atodlen 1: Dim aros ar unrhyw adeg
- Promenâd Llanfairfechan:
- Yr ochr ogleddol: o’i chyffordd â Shore Road am 5 metr i gyfeiriad y dwyrain
- Yr ochr ddeheuol:
- o bwynt 5 metr i’r gorllewin o Shore Road am bellter o 5m i gyfeiriad y dwyrain
- o bwynt 5 metr i’r gorllewin o Ffordd Fynedfa Gorllewin y Promenâd rhwng yr eiddo a elwir yn Glan-y-Don a Ger-y-Môr am oddeutu 15 metr i gyfeiriad y dwyrain
- o bwynt 5 metr i’r gorllewin o Ffordd Fynedfa Ganolog y Promenâd rhwng yr eiddo a elwir yn Balmoral a Kingston am oddeutu 15 metr i gyfeiriad y dwyrain
- o bwynt 7 metr i’r gorllewin o Ffordd Fynedfa Dwyrain y Promenâd rhwng yr eiddo a elwir yn Llais y Lli a The Windsor am oddeutu 12 metr i gyfeiriad y dwyrain
- Ffordd Fynedfa i’r Llwyfan Glanio:
- Yr ochr ddwyreiniol: o'i chyffordd â’r Promenâd am bellter o 5 metr i gyfeiriad y gogledd
- Shore Road:
- Yr ochr ddwyreiniol: o'i chyffordd â’r Promenâd am bellter o 8 metr i gyfeiriad y de
- Ffordd Fynedfa Gorllewin y Promenâd:
- Y ddwy ochr: o'i chyffordd â’r Promenâd am bellter o 6 metr i gyfeiriad y de
- Ffordd Fynedfa Ganolog y Promenâd
- Y ddwy ochr: o'i chyffordd â’r Promenâd am bellter o 6 metr i gyfeiriad y de
- Ffordd Fynedfa Dwyrain y Promenâd:
- Y ddwy ochr: o'i chyffordd â’r Promenâd am bellter o 6 metr i gyfeiriad y de
Atodlen 2: Cyfyngu amser aros i 45 munud, Dim Dychwelyd o fewn 60 munud (ac eithrio deiliaid trwydded ddilys)
- Promenâd Llanfairfechan:
- Yr ochr ogleddol: o bwynt 5 metr i’r dwyrain o’i chyffordd â’r Ffordd Fynediad i’r Llwyfan Glanio am bellter o 300 metr i gyfeiriad y dwyrain
- Yr ochr ddeheuol:
- o bwynt 5 metr i’r dwyrain o’i chyffordd â Shore Road am oddeutu 43 metr i gyfeiriad y dwyrain
- o bwynt 5 metr i’r dwyrain o Ffordd Fynedfa Gorllewin y Promenâd am oddeutu 62 metr i gyfeiriad y dwyrain
- o bwynt 5 metr i’r dwyrain o Ffordd Fynedfa Ganolog y Promenâd am oddeutu 59 metr i gyfeiriad y dwyrain
- o bwynt 66 metr i’r dwyrain o Ffordd Fynedfa Ganolog y Promenâd rhwng yr eiddo a elwir yn Balmoral a Kingston am oddeutu 17 metr i gyfeiriad y dwyrain
- o bwynt 5 metr i’r dwyrain o Ffordd Fynedfa Dwyrain y Promenâd rhwng yr eiddo a elwir yn Llais y Lli a The Windsor am oddeutu 27 metr i gyfeiriad y dwyrain
Atodlen 3: Gwahardd cartrefi modur a charafanau o 11pm tan 8am
- Promenâd Llanfairfechan:
- Y ddwy ochr: ei hyd cyfan.
Atodlen 4: Man Parcio ar y Stryd i Bobl Anabl
- Promenâd Llanfairfechan:
- Yr ochr ddeheuol: o bwynt 66 metr i’r dwyrain o Ffordd Fynedfa Ganolog y Promenâd rhwng yr eiddo a elwir yn Balmoral a Kingston am oddeutu 17 metr i gyfeiriad y dwyrain
Dyddiedig: 23 Gorffennaf 2025

Matt Georgiou
Pennaeth y Gyfraith a Llywodraethu
Tudalen nesaf: Gorchymyn